"Croeso i ddyfnderoedd fy isymwybod: Welcome to the depths of my subconscious. Shark Fishing in Wales is one man's odyssey to understand the land of his birth through anecdote, observation and reminiscence! By learning about his country, perhaps he can learn more about himself. A process of individuation which Carl Jung suggests we should all go through. Less assuming one nationhood and more working towards one nationhood before we become Independent." Daf Williams
Cymru/Wales: Bipolar Nation
Total Pageviews
-
https://linktr.ee/lucyreidarts 'I can play the piano' whispered 5-year-old me to our deputy head teacher Mr. Dennis who was s...
-
+ = My life can be distilled into the above arithmetical equation. Capel(Chapel) + Ysgol(School) = Carchar(Prison) There ...
-
The Hero's Journey from David Williams on Vimeo . I know that some of you read this blog especially the very popular Guest Blog P...
-
As a Ffrinj Nutter who had a dalliance with the Welsh Nationalist Party/ Plaid Cymru/ The Party of Wales many, many years ago I was p...
-
January 1988 sees me starting work (Kairdiff Vernacular) at 'The Printers' on Broadway, Roath Cardiff. It looked less like the o...
-
http://sharkfishinginwales.blogspot.co.uk/2012/01/my-news-years-resolution-is-to-become.html I saw Jimmy again today. He was sat ne...
Thursday 31 January 2019
Monday 28 January 2019
You Kip
Saturday 26 January 2019
Non Consenting Adults
I geisio profi fy mod i yn gallu sgrifennu am bynciau oni bai am gathod yn Gymraeg dyma blog post yn dwyn y teitl 'Non Consenting Adults'. Yn yr wythnos sydd wedi gweld diflaniad un o sêr pêl droed Caerdydd yn hedfan ar Buddy Holly Airways i gerddoriaeth Glen Miller i Gynghorydd Torïaid o Gyncoed yn deud dyle arweinydd Cyngor Caerdydd 'tear down the tents' gan dynnu sylw at y maes pebyll sydd wedi sefydlu yng Nghanol y Ddinas. Yn lle son am fy nghredo fod Prifddinas Cymru a'i thîm pêl droed wedi cael ei felltithio mi wnai son am fy meddylfryd ble dyle pobol penderfynu drostynt ei hunan beth maent am wneud. Efallai fuasai fe wedi bod yn well tasa Clwb Pêl Droed Caerdydd wedi trefnu trafnidiaeth i'w chwaraewr mwya drud erioed, yn lle gadael iddo fo fwcio awyren ei hunan neu waeth fyth,yr asiant.
Mae 15 miliwn am fywyd yn dipyn o golled. Pwy sydd yn cael y pres yna rŵan, Nantes, neu ydy Caerdydd yn cadw'r arian ac yn symud ymlaen at yr arwiddiad nesaf? Mae yn nodweddiadol sylwi hefyd fod yr hen geg ei hunan Neil Warnock wedi bod yn dawel iawn wsnos yma ar ol deud pythefnos nol, dyle’r 'gweddill y byd mynd i uffern' yn sgil Brexit. Dwi'n meddwl fel un sydd wedi byw a bod yn geto Grangetown am dri deg o flynyddoedd hunllefus taw Caerdydd sydd yn mynd i uffern. Mae canol y dre yn edrych fel codi cap i Dante ei hun ond dwi'n deud pam dyle bobol ddim cael yr hawl i fyw mewn pebyll yng nghanol y ddinas? Oleua maen't yn osgoi talu Treth Cyngor ac rydym yn gwybod, y 'normalos', pa mor ddrud mae hwnna yn gallu bod. Yn yr hen ddyddiau fasa bobol dlawd, ddi-waith yn mynd i'r 'workhouse'. Siŵr dyna fasa’r opsiwn gorau i'r Cynghorydd o Gyncoed, fod y rhain yn gwneud 'comeback' i adael i fusnesau fynnu mewn teyrnas unedig Post Brexit. Gobeithio cariad eich bod ddim wedi tagu ar eich Croissant Patisserie Valerie ar ôl darllen beth oedd gynnai i ddeud. Fel 'neutral' dwi'n mawr obeithio mi ddawn nhw o hyd i Sala ag y peilot Ibbotson yn fyw ar un o ynysoedd y Sianel,fel rhyw fath o Robinson Crusoe a Man Friday, ond erbyn hyn mae hwnna mor debyg ar Blaid Dorïaidd yn deall ystyr y gair tosturi.
Friday 18 January 2019
The Snakes and Ladders of Mental Health & the Workplace
Norman Lamb wants "a randomised control trial to target people in primary care." We are not lab rats Mr Lamb, we are not lambs for the slaughter. These politicians, who couldn't get a job in the real world are telling us, those with 'mental health needs',that work will set you free. It is very often work, with its strict limitations on freedom of expression that has made us ill in in the first place. Have you heard about bullying in the workplace?
Middle aged men tend to avoid Doctor's practices and I am one of them. If I know that my GP is working in cahoots with the DWP to coerce me back into unsuitable, soul destroying work, I wont be very happy about it, in fact, I could like a reverse Violet Elizabeth Bott in the Just William books, instead of screaming and screaming, go into a dark cold spiral of deep depression. I am able to do this at will now. All I have to do is watch the news, eat some junk food, go down the bookies, get pissed in the multifarious happy hours and drop a few unhappy pills. Let me marinate with my intrusive thoughts and negative over thinking and then I will be ready for your control group. Despite my qualifications you can drop me in the factory line or fast food chain gang and I will work at Dickensian drudgery so the elite 1% can go ahead and continue to paint lies on the side of buses. Work does not set you free. Unsuitable work coerced on to a desperate population by Doctors and the Department of Work and Pensions will lead to further distrust and resentment.
We can't all be politicians.....tell a lie, I'll back track on that, anybody can be a politician. The next time that somebody on £77,000 a year tells somebody on £73.10 a week Employment and Support allowance to stop 'thinking about their sickness' and 'think about getting into work' then please allow me to attach the electrodes to the politician's head and place the rubber bung in their mouth. Unfortunately, unlike the Milgram experiment, when one of these screams in pain for me to lower and stop the electrical voltage, then its very unlikely that I will stop, because I know that it is a physical illness that they are suffering and not a mental and emotional one.
Thursday 17 January 2019
Hwyl Fawr Squeaky Socks
"Cadw nhw ar y fferm adref er stalwm i hel llygod mawr, llygod ffyrnig, doedden nhw ddim yn cael dod i'r tŷ"
gyda'i eiriau, dyma fi'n cofio gweld nhw, dwsin neu ugain ohonynt gyda'i asennau yn dangos trwy ei chroen blewog. Doedd cathod ffarm Dyffryn Clwyd ddim yn dew. Felli dyma ni am ffarwelio gyda chath rydym wedi bedyddio gydag enw plentynnaidd Saesneg ag siŵr o fod ar ôl iddi gyrraedd Pennal bore mha fydd yr enw yn newyd i Owain Glyndŵr, Tywysog y cathod bach sinsir neu enw menywaidd oherwydd dwi dal i feddwl taw dynes ydy hi. Ydy cymhlethdod traws rhywioldeb yn ymestyn i gathod hefyd tybed? Nol at y gweiddi. Cofio nôl i fy nghyfnod fel Athro Drama a Saesneg yn Ne Ddwyrain Llundain cyn i fi fynd off y rails yn de, cyn i fi droi yn wallgofddyn. Yn ddyddiol mi faswn yn gweiddi i gadw trefn. Yn allanol, yn ceisio edrych fod pethau o dan reolaeth ond tu fewn, yn berwi o ddiffyg trefn a dealltwriaeth o'r byd a'r betws. Doedd rhai ddim yn gallu deall sut oedd person mor ddihyder yn gallu fod yn athro Drama. "It's all an act, lyfi cariad" wedais i un diwrnod a fflownsio allan o'r staff room. Roedd gweiddi yn dangos dy fod ti wedi colli rheolaeth, yn dangos fod y disgyblion 'wedi dy gael di'. Yn llythrennol roedd dysgu drama, yn bendant yn yr ysgol yna, fel hel cathod. Gobeithio caeth Ann with a van mwy o hwyl am ddeg na wnes i yn dysgu ers llawer dydd. Hwyl Fawr 'Squeaky Socks'.
Tuesday 15 January 2019
Yellow Vest
Sunday 13 January 2019
Ken Frane and the Bluebird Voodoo Doll
Saturday 12 January 2019
Anturiaethau Pellach Squeaky Socks a Tomos
Ar nodyn mwy difrifol rydym wedi sylwi fod yr hen Tomos yn gloff ac mae 'na graith heb flew ar ei goes dde cefn. Efallai wedi cael e'n sownd mewn trap neu wedi bod yn ymladd a rhywbeth wedi rhoi uffern o frathiad iddo. Mae'r ddwy gath yma wedi dod atom ni o nunlle 'one dark and stormy night' ac rydym yn gwario pres ar fwyd cathod ble roeddwn ni ddim o'r blaen ag nawr mae'r bwgan o filfeddygon yn dod dros y gorwel gyda mwy o bres yn fantol. Dyna pam dydyn ddim yn cadw anifeiliaid, y gost! ond mae'r ddau yma wedi dod atom ni fel her, mae hynny yn amlwg. Wythnos arall ar wefan y 'Gynghrair Amddiffyn Cathod' fel un wedi ei ffeindio i squeaky socks ac wedyn gobeithio bydd hi yn cael ei fabwysiadu go handi. Unwaith maent wedi blasu bwyd maen nhw yn dechrau eich addoli ag pendant dim 'duwiau' ydym ni. Dwi'n ddiolchgar i'r par yma am un peth, y cyfle maent wedi rhoi i mi sgrifennu amdanynt yn fy mamiaith, ond erbyn hyn, yn debyg i'r hen gath wyllt, yr iaith fwy bratiog sydd gyda fi.
Thursday 10 January 2019
Gwers mewn Gostyngeiddrwydd
Mae 'Squeaky Socks' chi'n cofio? Y gath fach annwyl, y rhodd gan Dduw wedi dod a chwain gyda hi i'r tŷ! Mi roeddwn yn dal yr un bach yn fy nhwylo a gweld rhywbeth du yn teithio trwy ei blew. Diolch byth am Morrisons yn de, ar agor tan ddeg y nos a minnau fel hen ddyn musgrell yn sefyllian yn y lon bwyd cathod yn edrych am rywbeth i drin ein hymwelydd dros dro (gobeithio). Wedi digwydd gweld ar y we bod cathod bach coll yn llawn chwain felli mae ein hymwelydd bach nos Sul wedi dod a ffrindiau gyda hi ac nid yn unig chwain rydym yn meddwl fod hi wedi dod a 'bownsar' gyda hi. Mae hon yn gath llythrennol wyllt a ffeindio ni hon yn y garej y bore ar ôl ymddangosiad 'squeaky socks' felli mae na rhyw feddwl na rhyw double act ydy rhain fel Estragon ag Vladimir yn Waiting for Godot neu George a Lennie yn 'Of Mice & Men' dau grwydryn yn trempio'r wlad, yr un ifanc yn wafio ei chynffon ag yn galw ar bobol "Drychwch arna i, dwi'n real cutie" a'r llall, yr un hen chwerw, yn sleifio rownd cefn i chwilio am fwyd. Mae rhaid cyfaddef ar ôl trin a thrafod a 'squeaky socks' doeddwn ddim yn yr hwyl gorau i drin yr un hen yma felli mi wnes i redeg ar ei ôl o, mi wnes i daflu dŵr tuag ato, mi wnes i droi'r hoover ymlaen i geisio rhoi braw iddo fo a 'squeaky socks' yn y ffenest yn wincio ar ei hen ffrind. Dyma ni'n meddwl fod ni wedi cael gwared ar hen beth ond dyna ni eto, fel 'minder' go iawn, roedd o yn y garej bore ma ag roedd o eisiau bwyd, a doedd o ddim am cymryd "Na" fel ymateb. Teimlais gywilydd am gael fy swyno gan gath fach ifanc wrth anwybyddu'r hen 'bwmbarth' yma, roedd yn ôl ei olwg yn tynnu tua diweddglo ei naw bywyd.
Felli bore ma mi ges i wers yng ngostyngeiddrwydd ag mi wnes i roi bwyd i'r hen gath wyllt yn y garej. 'Tomos' rydym wedi galw hon ar ôl yr hen gath yn gartwnau Tom & Jerry ers llawer dydd. Pwy a ŵyr, efallai ar ôl i'r act ddwbl yma blino arnom ni ag ein llety tlawd, ymlaen a nhw i borfeydd brasach fel dau trempyn bach blewog, un yn hen ac yn gynhennus cwerylgar ar llall yn ifanc, yn llawn bywyd, llawn chwain a llawn triciau.
Tuesday 8 January 2019
Squeaky Socks
Am wyth o'r gloch nos Sul diwethaf, ar ôl i nodau olaf 'Canu Plygain' Dechrau Canu Dechrau Canmol o Sir Drefaldwyn orffen dyma fi'n clywed sŵn cath yn 'mewian' wrth y drws ffrynt. Gweld wyneb bach a throi'r golau ymlaen, diflannodd. Cae drws. Y sŵn yn dechrau eto. Tro yma ddaeth y gath fach ifanc i mewn, lliw sinsir a sanau gwyn. Gwichian oedd hi'n neud melli yn nhraddodiad yr hen Gymry dyma roi llysenw iddi syth bin. Felli 'Squeaky Socks' sydd ar hyn o bryd yn eistedd yn y stafell ganol yn penderfynu beth i feddwl am y dihirod yma sydd wedi cymryd hi fewn. Yr unig beth allai feddwl oherwydd amseriad ymddangosiad y gath fach ifanc yma oedd ta rhodd gan Dduw oedd hi. Rydym yn meddwl ta merch i'w hi oherwydd fel y dywedais i'r fenyw o 'Gynghrair Amddiffyn Cathod Ceredigion' doeddwn ddim yn gweld ceilliau arni. Ia, dych chi'n dallt yn iawn. Fel bob rhodd arall gan Dduw sydd wedi bod, rydym wedi troi i ffwrdd o'r hen ofergoeledd yna at y byd go iawn. 'Realiti' oherwydd dyna ble mae rhan fwyaf o bobol yn byw yn de? Rydym wedi dilyn y canllawiau, cysylltu â chymdogion ac wedi hysbysu'r 'Cat Protection League' a diolch i dduw amdanynt. Roedd Squeaky Socks yn amlwg yn gwybod fod y bobol tu fewn i'r tŷ yma yn hoffi cathod ond mae'r bywyd ymarferol yn deud taw rhoi hi fyny fel 'Ar Goll' am bythefnos ac wedyn fydd hi yn cael ei rhestri fel cath yn barod i gael ei fabwysiadu. Ond sut ddaeth hi atom ni? Rhodd Dolig aeth yn ormod i bobol? Wedi cael ei dwmpio ochor ffordd? Tasa gyda hi chartref go iawn fasa hi wedi ymgeisio mynd nôl yna? Well mi wnawn ni'r gorau glas gyda'r rhodd fach gan Dduw am y pythefnos nesaf ond wedyn gobeithio mi aeth hi i gartref bach croesawgar fydd yn ymfalchïo ynddi ag mi ganwn ni fel triawd plygain hwyl fawr i'r gath fach annwyl.
Saturday 5 January 2019
Big bother yn Bermo bitw
Ken Frane
Last of the Cardiff Docks' Detectives
The fact is, the poet does not want admiration, he wants to be believed.
— Jean Cocteau Quotes (@CocteauQuotes) September 21, 2020
Fruity old fruit bats
Hello my fruity old fruit bats! That is a term of endearment by the way. I thought I would treat you to a piece of prose rather than the b...
Blog Archive
- March 2024 (2)
- February 2024 (2)
- January 2024 (3)
- December 2023 (1)
- November 2023 (1)
- October 2023 (4)
- September 2023 (6)
- August 2023 (3)
- July 2023 (3)
- June 2023 (2)
- May 2023 (4)
- April 2023 (4)
- March 2023 (4)
- February 2023 (2)
- January 2023 (3)
- December 2022 (3)
- November 2022 (3)
- October 2022 (7)
- September 2022 (4)
- August 2022 (5)
- July 2022 (4)
- June 2022 (5)
- May 2022 (5)
- April 2022 (4)
- March 2022 (7)
- February 2022 (4)
- January 2022 (12)
- December 2021 (4)
- November 2021 (4)
- October 2021 (6)
- September 2021 (5)
- August 2021 (5)
- July 2021 (6)
- June 2021 (7)
- May 2021 (4)
- April 2021 (13)
- March 2021 (5)
- February 2021 (8)
- January 2021 (7)
- December 2020 (7)
- November 2020 (5)
- October 2020 (6)
- September 2020 (6)
- August 2020 (10)
- July 2020 (3)
- June 2020 (4)
- May 2020 (4)
- April 2020 (5)
- March 2020 (4)
- February 2020 (5)
- January 2020 (4)
- December 2019 (7)
- November 2019 (6)
- October 2019 (5)
- September 2019 (6)
- August 2019 (8)
- July 2019 (7)
- June 2019 (6)
- May 2019 (3)
- April 2019 (5)
- March 2019 (5)
- February 2019 (7)
- January 2019 (11)
- December 2018 (6)
- November 2018 (7)
- October 2018 (6)
- September 2018 (7)
- August 2018 (8)
- July 2018 (7)
- June 2018 (6)
- May 2018 (4)
- April 2018 (10)
- March 2018 (11)
- February 2018 (23)
- January 2018 (13)
- December 2017 (10)
- November 2017 (10)
- October 2017 (6)
- September 2017 (13)
- August 2017 (8)
- July 2017 (7)
- June 2017 (13)
- May 2017 (10)
- April 2017 (15)
- March 2017 (8)
- February 2017 (8)
- January 2017 (5)
- December 2016 (14)
- November 2016 (9)
- October 2016 (10)
- September 2016 (10)
- August 2016 (9)
- July 2016 (14)
- June 2016 (8)
- May 2016 (21)
- April 2016 (17)
- March 2016 (12)
- February 2016 (7)
- January 2016 (12)
- December 2015 (13)
- November 2015 (11)
- October 2015 (15)
- September 2015 (12)
- August 2015 (15)
- July 2015 (9)
- June 2015 (6)
- May 2015 (9)
- April 2015 (9)
- March 2015 (13)
- February 2015 (10)
- January 2015 (10)
- December 2014 (11)
- November 2014 (17)
- October 2014 (13)
- September 2014 (13)
- August 2014 (14)
- July 2014 (19)
- June 2014 (9)
- May 2014 (10)
- April 2014 (13)
- March 2014 (15)
- February 2014 (6)
- January 2014 (9)
- December 2013 (9)
- November 2013 (9)
- October 2013 (3)
- September 2013 (8)
- August 2013 (4)
- July 2013 (3)
- June 2013 (1)
- May 2013 (1)
- April 2013 (4)
- March 2013 (5)
- February 2013 (7)
- January 2013 (4)
- December 2012 (5)
- November 2012 (12)
- October 2012 (7)
- September 2012 (3)
- August 2012 (14)
- July 2012 (4)
- June 2012 (6)
- May 2012 (6)
- April 2012 (11)
- March 2012 (23)
- February 2012 (21)
- January 2012 (18)
Bottom of the Ottoman
Bottom of the Ottoman from David Williams on Vimeo.
Crying in your Beer from David Williams on Vimeo.
Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth
I shall never wear tweeds from David Williams on Vimeo.