I geisio profi fy mod i yn gallu sgrifennu am bynciau oni bai am gathod yn Gymraeg dyma blog post yn dwyn y teitl 'Non Consenting Adults'. Yn yr wythnos sydd wedi gweld diflaniad un o sêr pêl droed Caerdydd yn hedfan ar Buddy Holly Airways i gerddoriaeth Glen Miller i Gynghorydd Torïaid o Gyncoed yn deud dyle arweinydd Cyngor Caerdydd 'tear down the tents' gan dynnu sylw at y maes pebyll sydd wedi sefydlu yng Nghanol y Ddinas. Yn lle son am fy nghredo fod Prifddinas Cymru a'i thîm pêl droed wedi cael ei felltithio mi wnai son am fy meddylfryd ble dyle pobol penderfynu drostynt ei hunan beth maent am wneud. Efallai fuasai fe wedi bod yn well tasa Clwb Pêl Droed Caerdydd wedi trefnu trafnidiaeth i'w chwaraewr mwya drud erioed, yn lle gadael iddo fo fwcio awyren ei hunan neu waeth fyth,yr asiant.
Mae 15 miliwn am fywyd yn dipyn o golled. Pwy sydd yn cael y pres yna rŵan, Nantes, neu ydy Caerdydd yn cadw'r arian ac yn symud ymlaen at yr arwiddiad nesaf? Mae yn nodweddiadol sylwi hefyd fod yr hen geg ei hunan Neil Warnock wedi bod yn dawel iawn wsnos yma ar ol deud pythefnos nol, dyle’r 'gweddill y byd mynd i uffern' yn sgil Brexit. Dwi'n meddwl fel un sydd wedi byw a bod yn geto Grangetown am dri deg o flynyddoedd hunllefus taw Caerdydd sydd yn mynd i uffern. Mae canol y dre yn edrych fel codi cap i Dante ei hun ond dwi'n deud pam dyle bobol ddim cael yr hawl i fyw mewn pebyll yng nghanol y ddinas? Oleua maen't yn osgoi talu Treth Cyngor ac rydym yn gwybod, y 'normalos', pa mor ddrud mae hwnna yn gallu bod. Yn yr hen ddyddiau fasa bobol dlawd, ddi-waith yn mynd i'r 'workhouse'. Siŵr dyna fasa’r opsiwn gorau i'r Cynghorydd o Gyncoed, fod y rhain yn gwneud 'comeback' i adael i fusnesau fynnu mewn teyrnas unedig Post Brexit. Gobeithio cariad eich bod ddim wedi tagu ar eich Croissant Patisserie Valerie ar ôl darllen beth oedd gynnai i ddeud. Fel 'neutral' dwi'n mawr obeithio mi ddawn nhw o hyd i Sala ag y peilot Ibbotson yn fyw ar un o ynysoedd y Sianel,fel rhyw fath o Robinson Crusoe a Man Friday, ond erbyn hyn mae hwnna mor debyg ar Blaid Dorïaidd yn deall ystyr y gair tosturi.
No comments:
Post a Comment