Language was the absolute key to all of this

Total Pageviews

Tuesday, 8 January 2019

Squeaky Socks


Am wyth o'r gloch nos Sul diwethaf, ar ôl i nodau olaf 'Canu Plygain' Dechrau Canu Dechrau Canmol o Sir Drefaldwyn orffen dyma fi'n clywed sŵn cath yn 'mewian' wrth y drws ffrynt. Gweld wyneb bach a throi'r golau ymlaen, diflannodd. Cae drws. Y sŵn yn dechrau eto. Tro yma ddaeth y gath fach ifanc i mewn, lliw sinsir a sanau gwyn. Gwichian  oedd hi'n neud melli yn nhraddodiad yr hen Gymry dyma roi llysenw iddi syth bin. Felli 'Squeaky Socks' sydd ar hyn o bryd yn eistedd yn y stafell ganol yn penderfynu beth i feddwl am y dihirod yma sydd wedi cymryd hi fewn. Yr unig beth allai feddwl oherwydd amseriad ymddangosiad y gath fach ifanc yma oedd ta rhodd gan Dduw oedd hi. Rydym yn meddwl ta merch i'w hi oherwydd fel y dywedais i'r fenyw o 'Gynghrair Amddiffyn Cathod Ceredigion' doeddwn ddim yn gweld ceilliau arni. Ia, dych chi'n dallt yn iawn. Fel bob rhodd arall gan Dduw sydd wedi bod, rydym wedi troi i ffwrdd o'r hen ofergoeledd yna at y byd go iawn. 'Realiti' oherwydd dyna ble mae rhan fwyaf o bobol yn byw yn de? Rydym wedi dilyn y canllawiau, cysylltu â chymdogion ac wedi hysbysu'r 'Cat Protection League' a diolch i dduw amdanynt. Roedd Squeaky Socks yn amlwg yn gwybod fod y bobol tu fewn i'r tŷ yma yn hoffi cathod ond mae'r bywyd ymarferol yn deud taw rhoi hi fyny fel 'Ar Goll' am bythefnos ac wedyn fydd hi yn cael ei rhestri fel cath yn barod i gael ei fabwysiadu. Ond sut ddaeth hi atom ni? Rhodd Dolig aeth yn ormod i bobol? Wedi cael ei dwmpio ochor ffordd? Tasa gyda hi chartref go iawn fasa hi wedi ymgeisio mynd nôl yna? Well mi wnawn ni'r gorau glas gyda'r rhodd fach gan Dduw am y pythefnos nesaf ond wedyn gobeithio mi aeth hi i gartref bach croesawgar fydd yn ymfalchïo ynddi ag mi ganwn ni fel triawd plygain hwyl fawr i'r gath fach annwyl.  

Darllen Pellach

No comments:

Post a Comment

Neither in work nor looking for employment

"Hi I am Daf Williams and I am economically inactive." I feel that I am in some kind of group therapy where I have to admit my add...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman