Hen amser fod yr hen iaith Gymraeg yn dangos ei phig ar y blog yma a minnau yn honni fod yn siaradwr anaye! Mae misoedd cyfan yn gallu mynd heibio a minnau yn cyfathrebu yn yr iaith fain ac wedyn dwi'n cael atgof o'r gorffenol "Use it or lose it young man".
Wel mae'r hen ddyn yma bellach eisiau sgrifennu geiriau yn llongyfarch ac yn canmol pobol ifanc, myfyrwyr Ffrainc sydd wedi bod allan ar y strydoedd yn gwrthdystio yn erbyn gorthrwm ei llywodraeth.
Andros o wlad di Ffrainc! Mi fues yn Llydaw blwyddyn ddiwethaf ac am un penwythnos cyfan mi wnes i fwynhau'r Brifddinas, Paris. Gadael Montroulez ar ddydd Gwener a dychwelyd o Gar de Montparnasse ar ddydd Llun. Er mor brydferth oedd Morlaix yn fwrlwm Paris roeddwn ni yn hapusach. Yn teithio fel dieithryn llygad lled agored ar y Metro. Un o'r argraffiadau cyntaf oedd y nifer o dwristiaid oedd o gwmpas y lle. Roeddwn yn gyfarwydd â chanol Llundain, rwyf wedi gweld y dorf yn ganol Tokyo ond roedd canol Paris yn enwedig o gwmpas Notre Dame yn afiach. Mor o bobol a ninlle i ddianc rhag y cegau lled agored.
Gresynu wrth weld twristiaid tu allan i'r Louvre heddiw yn rhegi ag yn gwneud ystumiau ar y myfyrwyr yn protestio. Tasa’r gilotîn dal wrth ei waith fasa dangos y llafn i'r twristiaid yma ddim yn beth drwg. Dwi'n sgrifennu fel rhywun sydd wedi ymdoddi mewn gwleidyddiaeth y chwith ers oes pys ac mae gweld mas critigol fel hyn yn sefyll i fyny yn erbyn yr heddlu a deud "digon yw digon" yn gwneud i rywun fod yn falch iawn o'r bobol ifanc yma sydd wedi sylweddoli dim cyn amser does dim dyfodol i ddynoliaeth os ydym am fwrw blaen yn yr hen drefn gyfalafol hon am byth.
Roedd Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig yn siarad gem dda yn y dechrau ond fel pob un wan jac o'i rhagflaenwyr mae o wedi dod o dan rym y lobi Israelaidd ac mae hyn wedi tawelu ei syniadau gwych gwreiddiol. Iddo fo fwy neu lau cwympo allan gyda'r Gwyrddion oherwydd hyn yn symbolaidd iawn o'r 'Zeitgeist' rydym yn byw trwyddi ar hyn o bryd. Creisis mewn cyfalafiaeth ydy'r sefyllfa yn y Dwyrain Canol yn y bôn. Tirfeddianwyr yn ceisio creu mwy o gyfoeth i bobol ei hunain ar draul hil o bobol eraill.
Dwi ddim wedi darllen a 'Tale of Two Cities' gan Charles Dickens ond mae gen i syniad amdano a beth rydym yn gweld yn Ffrainc ac ym Mharis yn benodol ydy arlliwiau'r llyfr hwn. Aristocratiaeth Lloegr yn ofni bydd gwrthdystio Ffrainc yn dod drosodd i dir y Deyrnas Ranedig.
Mae 'na chwedl o gyfnod Chwyldro Ffrainc fod y rheswm na welodd Lloegr y fath trwbl oedd y ffaith wnaeth y cyfoethog sylwi fod o yn ei buddiannau i ddechrau rhannu ei chyfoeth gyda'r rhai tlotach yn gymdeithas a dyna pam wnaeth llafn y gilotîn ddim cwrdd â gyddfau'r Saeson.
Mae Nigel Farage yn honni taw mewnfudwyr sydd yn achosi'r drafferth yn Ffrainc ac os nad ydynt yn ofalus yn y gwledydd yma yr un fydd ein ffawd. Well dewch o na tacla! Mae'n hen bryd i gyfoethog Brydain cael braw. A welwn ni chwyldro yng Nghymru eto tybed? Chwyldro ble fydd y Torïaid hunanol ag y Reform UK Ltd bondigrybwyll yn cael bath bach cynnar oer ym Mhae Caerdydd?
Wedi ei hebrwng o Senedd Cymru lawr i'r dwr i atgoffa nhw beth ydy ymbil am drugaredd.

.jpg)


.jpg)
.jpg)



















