Sioni Cath y Fynwent
Does neb eisiau chwarae da fi heddiw, a dyma fi yn llawn bywyd meddyliodd Sioni. Mi fyddai'n chwarae da'r unigolyn nesaf dwi'n dod ar draws doed a ddel. Dwi di dod a phelen a rhuban glas da fi!
Yn y pellter welodd o gath arall, cath ddiarth iddo! Gwych, meddyliodd Sioni, cath arall, mi fydd o fownd i eisiau gwneud yr un pethau a fi! Ond ar ôl dala fo fyny sylweddolodd o na hen gath oedd o, hynach na Bleddyn o'i golwg. "Helo hen gath, Sioni dwi! Beth yw dy enw di?" "Cer o ma'r diawl bach". "Dyna enw rhyfedd" atebodd Sioni "dwi ddim wedi clywed yr enw yna o blaen, dych chi eisiau chwarae da fi, dwi di ddod a phelen a rhuban da fi" "O'r gorau" wedodd yr hen gath, "Gaf fi weld nhw". Estynnodd Sioni ei phawen tuag at yr hen gath gyda'r pethau lliwgar. Ac roedd yn edrych ar y funud yna fod yr hen gath yn mynd i ddwyn nhw o law Sioni ond glaniodd Dafydd y Deryn Du lawr y funud honno rhwng tyn nhw. "Amser i ti fynd coch yr hen gadno" wedodd Dafydd. "Dim cadno ydy o Dafydd ond hen hen gath" ychwanegodd Sioni yn gyflym. "Na Sioni, cadno mewn cot cath! Sgrialodd yr hen gadno mewn cot cath i mewn i'r gwrych agosaf i'r lon las gan ddiawlio Dafydd.
"Cofia Sioni, does dim byd yn bod gyda chadno, maen nhw yn cael bywydau caled ac unig. Mae pawb ar ei ôl nhw, y ffermwyr a'r moch mewn cotiau coch ar gefn ei cheffylau"! Roedd Sioni yn synnu clywed fod moch yn reidio ceffylau, "ond y broblem" ychwanegodd Dafydd "pam fod cadno yn cocsio fod o'n rhywbeth dydy o ddim. Ti wedi clywed am yr hen ddywediad 'blaidd mewn cot dafad' wel roedd hwnna yn gadno mewn cot cath."
Dechreuodd deigryn bach disgyn lawr hwyneb Sioni. "Dwi di gael siom ar ôl siom heddiw mha. Dwi di gwrdd â Siani, Bleddyn a Coch a dim un yn fodlon chwarae da fi, bob un a'i esgusodion. Dim ond trio dianc o'r fynwent oeddem ni".
"Sioni bach, tyrd draw at y fainc yna gyda fi a mi rhoi gair bach o brofiad i ti". Roedd pig Dafydd yn llachar oren yn yr haul a'i chot ddu yn sgleiniog. "Mi adawais di'r fynwent fore mha, dwi'n iawn?"Nodiodd Sioni i ben lan a lawr. "Y fynwent i'w dy gartref di erioed?" "Ers i Mam cwrdd â'r gath ddiarth yn y clawdd un bore". Dydy hwnna ddim yn ffordd neis iawn i son am dy Dad". "Llys Dad, dwi byth yn ei weld o, mae o wastad off yn hel adar a llygod". "Ond y fynwent i’w dy filltir scwar?" "Ie". "Dydy pawb ddim yn meddwl yr un fath Sioni bach. Mae sgwarnog yn meddwl yn wahanol i gi sydd yn meddwl yn wahanol i gadno mewn cot cath." "Sydd yn meddwl yn wahanol i dderyn du", ategodd Sioni.
"Yn union" ebe Dafydd gan chwerthin. "Fuasai’r byd yn ddiflas ac yn undonog iawn taswn ni gyd yn meddwl yr un ffordd. Ble fuasai’r hwyl yn hynny? Fe adawes di'r fynwent fore mha gyda disgwyliadau. Disgwyl fod pawb yn mynd i fod mor frwdfrydig â thi i chwarae. Roeddet braidd yn anlwcus dyna gyd. Mae'n iawn cael disgwyliadau ond mae'n iawn hefyd i gael dy siomi oherwydd dyna sut rydym yn tyfu ac yn bwysicach byth, dyna sut rydym ni yn dysgu sut i chwerthin ar bethau pan nad ydynt yn mynd i'n ffordd ni o feddwl. Nawr Sioni, ble mae'r belen a rhuban yna? Beth am inni gael chwarae?"
No comments:
Post a Comment