TOMOS
Mae 'Squeaky Socks' chi'n cofio? Y gath fach annwyl, y rhodd gan Dduw wedi dod a chwain gyda hi i'r tŷ! Mi roeddwn yn dal yr un bach yn fy nhwylo a gweld rhywbeth du yn teithio trwy ei blew. Diolch byth am Morrisons yn de, ar agor tan ddeg y nos a minnau fel hen ddyn musgrell yn sefyllian yn y lon bwyd cathod yn edrych am rywbeth i drin ein hymwelydd dros dro (gobeithio). Wedi digwydd gweld ar y we bod cathod bach coll yn llawn chwain felli mae ein hymwelydd bach nos Sul wedi dod a ffrindiau gyda hi ac nid yn unig chwain rydym yn meddwl fod hi wedi dod a 'bownsar' gyda hi. Mae hon yn gath llythrennol wyllt a ffeindio ni hon yn y garej y bore ar ôl ymddangosiad 'squeaky socks' felli mae na rhyw feddwl na rhyw double act ydy rhain fel Estragon ag Vladimir yn Waiting for Godot neu George a Lennie yn 'Of Mice & Men' dau grwydryn yn trempio'r wlad, yr un ifanc yn wafio ei chynffon ag yn galw ar bobol "Drychwch arna i, dwi'n real cutie" a'r llall, yr un hen chwerw, yn sleifio rownd cefn i chwilio am fwyd. Mae rhaid cyfaddef ar ôl trin a thrafod a 'squeaky socks' doeddwn ddim yn yr hwyl gorau i drin yr un hen yma felli mi wnes i redeg ar ei ôl o, mi wnes i daflu dŵr tuag ato, mi wnes i droi'r hoover ymlaen i geisio rhoi braw iddo fo a 'squeaky socks' yn y ffenest yn wincio ar ei hen ffrind. Dyma ni'n meddwl fod ni wedi cael gwared ar hen beth ond dyna ni eto, fel 'minder' go iawn, roedd o yn y garej bore ma ag roedd o eisiau bwyd, a doedd o ddim am cymryd "Na" fel ymateb. Teimlais gywilydd am gael fy swyno gan gath fach ifanc wrth anwybyddu'r hen 'bwmbarth' yma, roedd yn ôl ei olwg yn tynnu tua diweddglo ei naw bywyd.
Felli bore ma mi ges i wers yng ngostyngeiddrwydd ag mi wnes i roi bwyd i'r hen gath wyllt yn y garej. 'Tomos' rydym wedi galw hon ar ôl yr hen gath yn gartwnau Tom & Jerry ers llawer dydd. Pwy a ŵyr, efallai ar ôl i'r act ddwbl yma blino arnom ni ag ein llety tlawd, ymlaen a nhw i borfeydd brasach fel dau trempyn bach blewog, un yn hen ac yn gynhennus cwerylgar ar llall yn ifanc, yn llawn bywyd, llawn chwain a llawn triciau.
No comments:
Post a Comment