"Cadw nhw ar y fferm adref er stalwm i hel llygod mawr, llygod ffyrnig, doedden nhw ddim yn cael dod i'r tŷ"
gyda'i eiriau, dyma fi'n cofio gweld nhw, dwsin neu ugain ohonynt gyda'i asennau yn dangos trwy ei chroen blewog. Doedd cathod ffarm Dyffryn Clwyd ddim yn dew. Felli dyma ni am ffarwelio gyda chath rydym wedi bedyddio gydag enw plentynnaidd Saesneg ag siŵr o fod ar ôl iddi gyrraedd Pennal bore mha fydd yr enw yn newyd i Owain Glyndŵr, Tywysog y cathod bach sinsir neu enw menywaidd oherwydd dwi dal i feddwl taw dynes ydy hi. Ydy cymhlethdod traws rhywioldeb yn ymestyn i gathod hefyd tybed? Nol at y gweiddi. Cofio nôl i fy nghyfnod fel Athro Drama a Saesneg yn Ne Ddwyrain Llundain cyn i fi fynd off y rails yn de, cyn i fi droi yn wallgofddyn. Yn ddyddiol mi faswn yn gweiddi i gadw trefn. Yn allanol, yn ceisio edrych fod pethau o dan reolaeth ond tu fewn, yn berwi o ddiffyg trefn a dealltwriaeth o'r byd a'r betws. Doedd rhai ddim yn gallu deall sut oedd person mor ddihyder yn gallu fod yn athro Drama. "It's all an act, lyfi cariad" wedais i un diwrnod a fflownsio allan o'r staff room. Roedd gweiddi yn dangos dy fod ti wedi colli rheolaeth, yn dangos fod y disgyblion 'wedi dy gael di'. Yn llythrennol roedd dysgu drama, yn bendant yn yr ysgol yna, fel hel cathod. Gobeithio caeth Ann with a van mwy o hwyl am ddeg na wnes i yn dysgu ers llawer dydd. Hwyl Fawr 'Squeaky Socks'.
No comments:
Post a Comment