
Gyda Storom Frank yn bygwth torri'r ffenestri yma, ar arfordir Gorllewin Cymru, mewn protest at ddofrwydd dyn yn ei ymateb i newid hinsawdd a gyda llai na pum mis ar ôl cyn etholiadau'r cynulliad Cymraeg, tybed a nawr ddylwn ni, sef y rhai sydd wedi syrffedu a gwleidyddiaeth bleidiol meddwl am glymblaid asgell chwith yng Nghymru i ymladd y naratif asgell dde sydd wedi sgubo ein gwlad ers yr etholiad cyffredinol diwethaf. Mae Gwleidyddiaeth Cymraeg yn dipyn o jôc. Mwy o glwb preifat i bobol y Bae na rhywbeth cyhoeddus allaf y werin datws cymryd rhan ynddo fo. Does 'na ddim llawer o werin datws ar ôl. Mi wnewch chi ffeindio nhw ym mhob plaid ond bobol ddistaw, drylwyr ei gwaith ydynt. Maent yn tueddu cael ei ysgubo i'r neilltu gan y 'croen caled' ar 'droellwyr tail tarw'. Yn debyg i'r cyfryngau mae gwleidyddiaeth Cymraeg yn rhywbeth fod 'gyrfaoeddwyr' neu 'carreerists' wedi ymddiddori ynddo, oherwydd maent yn rhoi statws i chi a llond trol o arian cyn ymddeol ond mae rhaid i bethau newyd a dyma ble mae pysgotwr siarcod Cymru yn crybwyll clymblaid o bobol dda gwleidyddiaeth Cymru, bobol foesol gyda chyfiawnder cymdeithasol yn uchel ar ei rhestr o flaenoriaethau. Does dim ond rhaid i ni edrych tuag at Syriza yn Wlad Groeg i weld esiampl o beth allai ddigwydd. Ym mis Mai bydd rhaid i'r 'Corbynistas Cymraeg' pleidleisio i Carwyn Jones a'i fath, Llafurwyr Cymraeg sydd erbyn hyn mor effeithiol â chofgolofnau gyda 'pwpw adar' ar ei phennau. Fydd y Gwyrddion yn brwydro yn erbyn Plaid Cymru, gyda chymaint gyda nhw yn gyffredin, wallgofrwydd llwyr. Fydd y pleidiau bach asgell chwith yn colli deposits a gadael y vaccuum i lenwi gan UKIP ar Dorïaid, sef pleidiau amddiffynnol ei safbwynt. Tor calon ydy gweld pa mor anobeithiol ydy gwleidyddiaeth Cymraeg yn enwedig yn sgil llwyddiant Corbyn eleni. Tasan na mudiad yma fasa’n brwydro dros ei werthoedd o i gefnogi fo yn lle rhoi'r cyllell yn ei gefn sydd yn nodweddiadol o Lafur Cymru, efallai allwn ni edrych ymlaen at'r dyfodol gyda thipyn bach o hyder ac egni yn lle'r torpor arferol. Breuddwyd efallai ond na fo mae rhaid breuddwydo yn does.