Pennod 1
A yw'n aderyn?
A yw'n awyren?
Naci Tad
Mae'n Dan Deimlad!
Nol yn yr oes Victorianaidd doedd o ddim yn iawn i ddangos emosiwn. Roedd dylanwad yr Eglwys a'r Capel yn gryf ac unrhyw wen allan o le a gaffoch chi eich cosbi. Mwy na chan mlynedd yn ddiweddarach mae sgil effeithiau hynn yn cael ei gweld yn ein cymdeithas. Distawrwydd a Sibrwd ydy'r drefn. A dyma ble mae 'Dan Deimlad' yn dod i mewn. Gwaith Dan ydy annog Cymry Cymraeg i siarad am ei emosiynau a sut maen nhw yn teimlo oherwydd maent yn wynebu un o gyfnodau anoddaf ei teyrnasith ar y wlad sef bygythiad angheuol i'r iaith maent yn ei siarad. Yn ystod y dydd, dyn di waith ydy Dan sydd yn rhoi digon o amser iddo feddwl am y fath bethau ond gyda'r nos mae Dan yn mynd dan Deimlad. Mae'r côr feddwl ar emosiynau wedi mynd yn rhemp ac mae rhaid i Dan fynd allan i ffeindio rhywun i siarad Cymraeg gyda nhw ond mae Dan yn ffeindio fod y Cymry ddim yn debyg i’w gilydd. Mae rhai gyda gwerthoedd a moesau dosbarth canol ac mae Dan yn ffeindio fo'n anodd iawn i gyfathrebu gyda nhw. Son am ei gwaith a'i phlant ac yr Eisteddfod maent ac fel dyn sengl mae Dan yn teimlo dan deimlad pan fod o'n clywed am y fath beth. Mae Dan Deimlad dan deimlad. Mae o ar drothwy. Ydy o'n cario mlaen fel unigolyn neu ydy o yn troi’n ddafad ac yn ymddidori yn y pethau?
No comments:
Post a Comment