Dwi'n cwympo rhwng dwy st么l yn fan hyn! Dwi'n flin gyda'r sefydliad, a'r sefydliad Cymraeg are hyn o bryd ydy'r Eisteddfod. Efallai fy mod yn genfigennus o'r unigolion sydd yn ennill y cystadlaethau, yn sylweddoli na dawn fawr sydd ei angen i fod yn llwyddiannus. Hefyd sylweddoli fel 'sgriblwr' yn y ddwy iaith fy mod i ddim yn mynd i lwyddo yn un o’r ddau. Felli hen bwdryn sydd yn sgrifennu yn fan hyn ond un sydd wedi cael ei ysbrydoli i sgrifennu mwy yn Gymraeg. Gymraeg gwallus, bratiog fydd o ond o leiaf ddim Saesneg, yr iaith ges i fy addysgu ynddo. Ers prynu'r Cymro dydd Gwener ddiwethaf dwi di fod yn dilyn y stori ble mae Beirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen wedi galw'r Heddlu i ymchwilio gwaith 'afiach' yn ei thyb nhw. Mae rhaid i ni gredu popeth mae'r sefydliad yn deud wrthon ni ac mae'n ddigon clir pa neges mae'r Eisteddfod wedi bod yn rhoi allan. 'Parchwch ni ac ein rheolau neu dda chi mi fyddwn yn dod ar eich 么l chi'.
Dwi wir yn teimlo fod y feirniadaeth a'r sylwadau yn deud mwy am y beirniaid nag awdur yr 'Pornograffi pedoffiliaid.' Mae rhaid i ni gymryd gair y Beirniad 'Ond pan does dim celf yno, a ’da chi’n cael eich hun yn meddwl am natur enaid yr awdur yn hytrach na’i gymeriadau… wel' Wel Be? Ffoniwch yr Heddlu? Cystadleuaeth Lenyddol ydy hon nid 'delweddau ffotograffig mewn cystadleuaeth celf weledol' felli beth sydd yn meddwl y Beirniad sydd yn fwy diddorol na beth sydd wedi sgrifennu lawr ar bapur. Dwi wir yn synnu ar y sylwad yma "Unwaith eto, pryder un neu ddau ohonom oedd y gallai’r ‘awdur’ ddatblygu i wireddu ei ffantasi芒u." ar ol darllen darn o lenyddiaeth? Ydy o yn erbyn y gyfraith i sgrifennu'r fath beth? Well yn amlwg ddim oherwydd mae'r beirniad yn mynd ymlaen i weud "O be dwi wedi cael ar ddeall, methodd yr heddlu 芒 darganfod unrhyw fforensics na thystiolaeth i allu canfod awdur y gwaith. Mi dr茂on nhw eu gorau yn 么l y son. Eu barn gyffredinol nhw oedd nad oedd yr awdur – yn dechnegol – wedi torri unrhyw gyfraith." Fforensics? A gafodd rhywun ei ladd yn fan hyn? A gafodd rhywun ei gam drin yn rhywiol yn fan hyn? Well do yn feddyliau'r Beirniaid a Phwyllgor yr Eisteddfod. Allai ddim dychmygu buasai’r un peth wedi digwydd yn Saesneg? Cystadleuaeth ble mae rhywun gyda rhesymau personol iddyn nhw wedi herio'r sefydliad gyda thywyllwch yr isymwybod. "Ar 么l 50 tudalen, tarais olwg sydyn trwy weddill y nofel a gweld mai'r un peth oedd drwyddi draw. Hynny yw, cam-drin plant (yn cynnwys treisio, a gwylio plant yn gadael ysgolion)." Os taswn ni yn Feirniad mi faswn ni wedi rhoi'r gorau iddi ar 么l 5 tudalen os oedd y darn mor wael ag y mae'r beirniad yma yn ei honni. I'r bin ar ddarn a dim mwy o son amdani ond o na roedd rhaid i'r Eisteddfod gwneud mor a mynydd o hyn.
No comments:
Post a Comment