My Substack

Populist Poet

I'll write anything for money me!

Wednesday, 15 October 2014

Shwmae Su'mae?

Wel shwmae su'mae? Dwi ddim yn becso'n ormodol chwi oherwydd fy mod yn dipyn bach o meudwy. Cael fy annog i gyfathrebu heddiw yn y Gymraeg ond dwi ddim yn meddwl eich bod yn mynd i hoffi beth sydd ganddi i ddeud, ond na fe, bant da'r cart ontife.
Eisiau dweud o ni bod fi'n meddwl bod y gymdeithas Gymraeg ei iaith yn rhy gul. Dwi feddwl fod 'na ofn mawr yn perthyn i'r Gymdeithas Gymraeg. Ofn llond trol o bethau. Efallai fy mod yn son amdanaf i fy hun fan hyn wrth gwrs a dim ond 'projectio' ydw i. Wps gair Saesneg, i waelod y dosbarth a fi.
Beth wnewch chi ag adar brith yn eich mysg? Dioddef nhw a gwenu, anwybyddu nhw, y rhai sydd ddim yn cydymffurfio gyda'r meddylfryd teuluol, papur bro, capel, S4C. Ac i son am y 'cyfryngi' bondigrybwyll yma, beth am y syniad sydd wedi cael ei grybwyll eich bod yn rhoi 10% o'ch cyflog i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg oherwydd oni bai amdanyn nhw a bygythiad Gwynfor Evans i ymprydio tan farwolaeth fase da chi ddim gwaith ond na fe, byw yn y byd tymor byr, ffwrdd a hi, Eingl-Americanaidd i ni ac mae hyn yn amlwg wedi treiddio i'r Gymdeithas Gymraeg. Y Gymdeithas yna sydd mor hoff o'i sefydliadau, Yr Eisteddfod, yr Eglwys yng Nghymru, Y BBC, Y Capeli. Cydymffurfiwch bois bach neu Dduw a'ch helpu chi. Byddwch yn neis neis rŵan a pheidiwch â thrafod iechyd meddwl er mwyn dyn. Y gymdeithas glos yna yn cadw ei chyfrinachau teuluol.
Blwyddyn nesaf fydd dathliad 150 o flynyddoedd ers yr ymfudo i'r Wladfa. Efallai yn lle ymladd yn erbyn y llu ddi-Gymraeg a UKIP ai Brydeindod ddylwn gadael am Batagonia ac ail greu Cymru newydd gan ddysgu oddiwrth camgymeriadau ein gorffennol a bois bach, mi wnawn adael y sefydliadau nol yng Nghymru ac mi wnawn ail adeiladu Cymru newydd ar seiliau sosialaeth gydweithredol. Wrth Gwrs dwi'n disgwyl i chwi anwybyddu'r sylwadau yma oherwydd fy mod yn wallgofddyn ond gofynnwch y cwestiwn "tybed pam mae hwn yng ngwallgofddyn"? 



No comments:

Post a Comment

Tawdry Audrey

If you blame Capitalism you sound as if you are blaming human behaviour for the state of human society. You could come across as a little na...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman