Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Monday 14 September 2020

Cymru Danddaearol



Dwi'n rhagdybio fod y bobol sydd yn fy nilyn i sydd yn siarad Cymraeg ydy'r rhai sydd ddim eisiau cael ei gweld gan bobol eraill yn canmol fy ngwaith a chytuno gyda fy safbwyntiau. Mae'r sefydliad Cymraeg ac yn hynny o beth dwi yn cynnwys y BBC, Cylchgrawn Golwg a Llenyddiaeth Cymru ddim eisiau rhoi'r chwyddwydr ar y dyn bach ond maent yn ddigon bodlon i gymryd nawdd a grantiau ag canmoliaeth gan y dynion mawr. Mi welais un o hoelion wyth y sefydliad llenyddol bore dydd Sadwrn yn reidio ei feic ac yn edrych fel Humpty Dumpty, un sydd yn brolio'n hunan pwysig ar y cyfryngau ac sydd yn cael ei chanmol a chlodfori rhown y rîl. Mae'n edrych fel bod 'na sawl un o rain sydd wedi codi i'r top ym myd cyfryngau Cymru ddim fel hufen ond fel rhyw fath o ffwng sydd yn cadw adar bach i ffwrdd o'r llaeth enwyn. Ers y dechreuad mae'r cyfryngau Cymraeg wedi rhoi amser mawr i rheina sydd yn fwyaf balch a thrahaus. 'Y twin set a pherlau' yn fflachio ar Sianel Pedwar Cymru.


Does dim digon ohonom ni i weithredu yn danddaearol yn yr iaith Cymraeg oherwydd mae'r sefydliad yn gweld ni yn amherthnasol neu yn gweld ni fel pobol sydd eisiau lledaenu neges yn wahanol i'r un sydd yn cael ei chanu o'r capeli i'r cyfryngau sef 'diwedd y gan di'r geiniog'. Wrth gwrs diwedd y gan di'r geiniog os ydych chi am barhau gyda'r system gyfalafol. Mae'r sefydliad Cymraeg yn efelychu'r un Brydeinig sydd yn efelychu'r un Americanaidd. Sbïwch ar bersonoliaethau Johnson a Trump. Dynion sydd wedi cael ei wobrwyo am fod yn bullies. Yn hynny o beth mae o yn wyrth fod rhywun mor swil â di hyder yn ei ffordd yn rhedeg Cymru. Drueni fod Drakeford ddim am weld Cymru rydd. 


Mae Cymru Rydd yn golygu rhyddhad o gyfalafiaeth, mae rhaid iddo fo fod. Allwn ni ddim parhau gyda system sydd wedi bod yn costio bywydau pobol ac sydd yn effeithio ar iechyd meddwl pobol mewn ffyrdd mwyaf andwyol. Tasa Cymru yn dod yn rhydd o unbennaeth anfaddeugar y Deyrnas Unedig fydd rhaid iddi gael gwared ar y pwyslais hwn o wobrwyo'r uchelgeisiol ac yr hunan cyfiawn. Os yw Cymru am ffyny yn annibynnol fydd rhaid i afwyn pŵer cael i drosglwyddo i rheina sydd yn gweithredu yn danddaearol ar hyn o bryd oherwydd nid prosiect egöydd ydy annibyniaeth ond prosiect y galon ar enaid.       

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman