Ffwcia fo. Dwi mynd mewn i ble mae angylion ofni troedio. Dwi am sgrifennu blogiad heb ei roi fo trwy'r censor wedyn sef Cysill.
Dwi mynd i fod mor noethlymun yn fy Nghymraeg gwael ag gallai fod. Efallai fydd na chamdreiglo fan hyn a chamsillafu fan draw ond sicr fydd yna gamddealltwriaeth ar hyd y daith.
Iawn? Gyda'r nonsens yna allan o'r ffordd mi allai fynd yn fy mlaen i ypsetio chi yn ddigyfaddawd rŵan.
Gyda Donald Trump yn gwneud 'drone stike' ar Gadfridog Byddin Iran, gyda Coronovirus yn cyrraedd gwledydd y Deyrnas Unedig. Gyda'r Deyrnas Ranedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd a newid hinsawdd yn llosgi a llifogydd o'n gwmpas ni, ni allaf bellach cocsio fy mod yn poeni'n ormodol am gywirdeb gwleidyddol na chywirdeb iaith o fewn y bowlen pysgod sydd yn cael ei adnabod fel Cymru.
Mae rhaid i mi fod yn hollol onest fan hyn, a tybed os beth ydw'n mynd i ddeud yn mynd i daro clychau Aberdyfi gyda rhai cenedlaetholwyr? Er faint i ni yn honni ein bod yn bleidiol i ein gwlad ag mi gaiff carwyr y bel hirgrwn pum achos yn fuan i ganu'r ffaith ei fod nhw, er faint rydym yn amddiffyn ein safbwyntiau ieithyddol a diwylliannol ac yn bloeddio 'Yma o Hyd' gyda'r ddraig goch dros ein hysgwyddau a oes yna ddarn bach o'r hippocampus yn deud weithiau "Fuck this Shit"? Mae yna gysgod Jungaidd ym mhob un sydd yn bloeddio ei 'Vuvuzela Cymraeg', darn bach bach sydd yn sgrechian dwi di blino ar y blwyfoldeb yma, ar y cenedlaetholdeb bach gul sydd rhaid i mi ynganu rownd y rîl oherwydd fy mod i wedi cael ei geni yn fama.
Mae fy amenydd i yn tueddi deud hwn yn dawel bach pan fydd yr Eisteddfod Genedlaethol ymlaen, pan fydd Pencampwriaeth y chwe gwlad ymlaen ble mae cenedl gyfan yn 'climaxio' ar y chwiban olaf. Tasa bobol yn gallu 'dod' (cum) dros Gymru dwi'n siŵr mi fuasent hwy.
Dwi'n deud hyn pan fydd rhyw wleidydd hunan pwysig o unrhyw blaid yn deud rhywbeth ffiaidd neu nawddoglyd. Dwi'n deud hyn pan ddwi'n clywed y diweddara o'r Senedd yn y Bae. Dwi'n deud e pan fydd rhyw 'horror story' am y GIG eto.
O annwyl gwlad y menig gwynion, annwyl gwlad y capeli â'i rhagrith ar y Sul Pan dwi'n darllen rhywun yn canmol safon Gymraeg Enoch Powell ar ddiwrnod mae 'Little Britain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd dwi'n meddwl i'm hun 'Fuck this Shit'. Ni allaf ddianc rhag hon.
*Yn amlwg fel seicolegydd amatur dwi'n sylweddoli trwy ddeud fy mod yn casáu Cymru fy mod yn cyffesi i gasáu fy hun. Tybed pa un ddaeth gyntaf.
No comments:
Post a Comment