Language was the absolute key to all of this

Total Pageviews

Thursday, 14 March 2019

Hiraeth





I'r Gymry ar wasgar mae o yn air sydd yn cwmpasu popeth am Gymru ond i mi sydd rhaid trempio strydoedd Aberteifi, Aberaeron ag Aberystwyth mae o yn air hyll. Mae hiraeth i Gymro neu Gymraes yn y Gymru gyfoes yn gyfystyr a bod yn naive a sentimental. Rydym ni yn hiraethu am Gymru sydd erioed wedi bod. Rydym yn byw yn y gorffennol. Yn ddiweddar roedd ein hiraeth ac ein sentimentaliaeth yn weledol i bawb pan wnaeth rhywun oedd yn hiraethu am ganeuon a chyfnod Elvis paentio dros symbol oedd yn hiraethu am yr oes cyn boddi Cwm Tryweryn. Pob clod i rheina a aeth i'r trafferth i paentio drosti eto ond faswn ni yn mynd mor bell a deud fod ein hiraeth ac ein sentimentaliaeth am y gorffennol yn dalli ni i sefyllfa druenus y presennol. Mae llythrennau bras ar racsyn o wal ddim yn mynd i warchod ein hiaith ac ein diwylliant. Fydd Cymry dosbarth canol cyffyrddus y crachach a Chaerdydd ar gyffiniau yn stopio ei cheir mawr ar y ffordd fyny i Lanrwst dechrau mis Awst am selfie treftadiaethol yn Llanrhystud yn fodlon ei byd bod "arbrawf diwylliannol llynedd wedi bod yn llwyddiannus yng nghrombil Anglo Americanaidd y Bae cariad!" A dyna beth ydy'r broblem gyda hiraeth. Edrych nôl ar oes aur yr iaith Gymraeg heb sylweddoli fod ni wedi gwerthu mas fel cenedl ag unigolion. Rydym yn ceisio amddiffyn yr iaith gyda thargedau amhosib i godi calon er mwyn i ni gyfiawnhau ein bodolaeth fel cymuned leiafrifol. Mae'r bobol sydd yn galw'r Cymraeg yn 'Iaith y Nefoedd' yn anfon fi'n benwan. Esiampl arall o defnydd air ynamarferol. Os ydynt yn iawn am y 'ffaith' beth am i ni trefnu 'Dosbarthiadau Duw' wedi ariannu gan Llywodraeth Cymru ble mae 500,000 o wirfoddolwyr yn cynnig ei hunan i ddysgu iaith y nefoedd erbyn 2050, oherwydd mae na wahaniaeth mawr rhwng siaradwyr Cymraeg a defnyddwyr y Gymraeg. Mi faswn ni yn disgrifio fy hun fel siaradwr a nid defnyddiwr ag os i ni yn mynd i rhoi ein gobeithion i gyd ar ysgwyddau pobol ifanc mewn ysgolion, miliwn o siaradwyr Cymraeg fydd gyda ni yn lle miliwn o ddefnyddwyr. Dwi'n meddwl mae rhaid i carwyr yr iaith stopio hiraethi a meddwl o ddifri sut i cyraedd y copa yma. Mae angen rhywbeth yn debyg i 'Visit Wales' ar yr iaith. Bwrdd Datblygu yr Iaith Gymraeg. Yn lle cael un person mewn swyddfa yn ymateb i cwynion trwy'r amser mae angen i cenhadwyr ieithyddol (Duolingo) mynd ar hyd a lled y byd i ehangu y gair Cymraeg.Os ydym ni yn meddwl gallwn ni ennill drosodd ein cyd Cymry gyda dadleuon dros barhad iaith y nefoedd dwi'n meddwl fydd rhai i ni ategi 'pisio yn y gwynt' i'r gair hiraeth. Niwsans ydy'r iaith i lawer o Gymry sydd ddim yn ei siarad, rhywbeth sydd yn wneud iddynt deimlo llai o Gymry ac mae hwnna yn peth drwg. Yn lle ceisio bod yn glyfar ac yn nawddoglyd ar drydar gyda'r trolls sydd yn lladd ar yr iaith dewch allan o eich cregyn a gwnewch rywbeth ymarferol, ymosodol yn lle fod mor amddiffynnol trwy'r amser.
Rydym yn dathlu pan mae Aldi newydd yn agor, oherwydd rydym ni yng nghysgod Brexit, yn gwerthfawrogi pethau rhad. Yn lle Ceredigion beth am ofyn i newid yr enw i Sir Aldi. Un yn Aberteifi ag un yn Aberystwyth cyn bo hir. Maent yn parchu'r Gymraeg ag yn talu'n weddol i'w gweithwyr. Gadewch y gair 'hiraeth' i rheina sydd yn canu yn ei chwrw ar ôl gem o Rygbi, gadewch iddi barhau fel y gair mae pawb arall di Gymraeg ei iaith yn cysylltu gyda Chymru " ooh you know that feeling, that longing for a place that you've never been to" . Fel un sydd yn paratoi i werthu mas unrhyw funud fyddai yn dweud 'Croeso i Gymru, you are welcome to it'

No comments:

Post a Comment

The Love Grenade

  Sinead threw a grenade down the esplanade. It was no ordinary, common and garden explosive device this, when it landed it shower...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman