Language was the absolute key to all of this

Total Pageviews

Saturday, 24 June 2017

Chwarae gwleidyddiaeth bleidiol






Mae'r Ffrinj Nuttar a Physgotwr Siarcod sydd yn digwydd bod yr un person wedi sylwi fod yna sylwadau a thrydarai dirmygus tuag at Jeremy Corbyn yn dod oddiwrth Cenedlaetholwyr Cymraeg. Ar un ystyr digon dealladwy, mae Llafur yn gelyn i hunaniaeth Cymraeg ond yn bersonol dwi meddwl fasa na mwy o gyfle trafod 'home rule' gyda Corbyn na sydd gynnon ni gyda the Conservative and Unionist Party of Great Britain. Rhyfedd ydy'r sefyllfa yma yn y Gogledd ble mae Gareth Jones wedi gadael Plaid Cymru oherwydd y 'Party Line' o beidio gweithio gyda Cheidwadwyr. Eto dealladwy yn nhermau ideoleg oherwydd mae cenedlaetholwyr a sosialwyr yn cofio 'Teirnasiaeth Thatcher' fel tasa fo ddoe ac rydym siŵr o fod ddim yn y meddwl iawn i fod yn oddefgar tuag atyn nhw ond ar ddiwedd y dydd, dim chwarae gwleidyddiaeth bleidiol ddylwn ni fod yn gwneud. Meddwl am y ffordd orau i gynnig gwasanaeth i bobol Cymru? Mae rhan fwyaf o bobol ddim yn aelodau o bleidiau gwleidyddol ond mae gennym ni'r sefyllfa chwerthinllyd bob pum mlynedd ble mae'r pleidiau yn disgwyl i ni ei ddewis nhw mewn rhyw gystadleuaeth 'Pick the least worst'. Faint sy'n darllen y Maniffestos? Faint sydd yn pleidleisio allan o draddodiad a theyrngarwch? Faint sydd yn pleidleisio oherwydd  'I'm all right Jack'? Eithaf tipyn o'r olaf fel arfer ond roedd o'n ddigon amlwg o ganlyniadau'r etholiad cyffredinol diwethaf fod 'na ddim gymaint o Jacks yn iawn. Mae UKIP ar Toris yn mynd i golli pleidleisiau yn y blynyddoedd i ddod oherwydd mae pobol gyda thueddiadau hunanol fel yna yn marw. A fydd y pleidleisiau sydd ar ôl yn mynd i'r Blaid Lafur neu i Blaid Cymru yng Nghymru? Yn anffodus y Blaid Lafur Cymraeg dau wynebol fydd yn elwa oherwydd y Corbyn effect. 
Lwcus i bawb arall fy mod i yn Ffrinj Nuttar oherwydd dwi'n meddwl y ffordd ymlaen ydy sicrhau llywodraeth Corbyn yn Llundain, wedyn weriniaeth Brydeinig ac wedyn Cymru Rydd. Dwi ddim yn gweld sut fydd Cymru yn gallu fod yn annibynnol gyda'r frenhiniaeth ag y system dosbarth yn ei anterth yn Westminster. Mae o fel pisio yn y gwynt, felli rhywbryd fydd rhaid bod rhyw fath o gydweithio yn rhywle. Ble a rhwng pwy? Watch this space pop pickers.  

No comments:

Post a Comment

The Love Grenade

  Sinead threw a grenade down the esplanade. It was no ordinary, common and garden explosive device this, when it landed it shower...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman