Fi ydy'r hebog dau wynebol sydd yn eistedd ar y ffens
Fasa ymddygiad o unrhyw fath arall ddim yn gwneud lot o sens
Oherwydd dwi di weld y byd yn troi am hanner canrif
A phobol yn gwneud yr un hen lol a gabol
Ni ydy'r broblem a wyddoch yn iawn,
a beth bynnag mae'r llyfr ac ysgrythur fawr yn deud
Mae 'love conquers all' wedi troi yn ormod i ddweud
Efallai derbyn y diwedd mae rhaid i ni wneud,
oherwydd mae'r ffordd yma o fyw yn 'unsustainable' cyw
Hoffwn roi'r atebion ger eich bron
Ond dwi di sefyll yn nol gymaint dwi bron yn ffŵl stop
Mae beth gen i i ddeud ddim yn lot o gop.
Mae fy Nghymraeg wedi troi'n Wenglish
Mae fy tax affairs yn Spanish
Dwi ddim yn siŵr bellach be dir gwahaniaeth
rhwng Yes a No Wales
Mae un yn cynnig gobaith, mae'r llall yn cynnig fails
Hammered gan y Toris/Llafur yn deud fod jobs yn bwysicach na'n enaid
Mae nhw'n wrong, maen nhw'n wrong, maen nhw'n wrong dwi'n affraid.
So 'Back to School' i'r hen ffŵl yma
Mi fydd rhaid i mi ddysgu gweithredu
Os dwi am i Gymru para.
No comments:
Post a Comment