Mae
elusennau iechyd meddwl yn annog ni i siarad ond yn bersonol dwi'n teimlo mae rhaid
gwneud mwy na hyn! Dwi'n lwcus, mae gen i ffrindiau alla'i siarad yn rhydd ac
yn agored am sut dwi'n teimlo ond weithiau mae rhwystredigaethau bywyd yn
pwshio chi i lefydd tywyll. Cwestiwn cyntaf faswn ni yn gofyn
1) ydan
ni yn byw yn y ffordd gorau posib? Os gwaith ag ennill arian ydy prif nod bywyd
gwell, mae canran uchel o'r boblogaeth yn gwneud yn iawn ond beth am rheina
sydd yn byw mewn tlodi? Beth ydy gwahaniaeth yn iechyd meddwl y ddau ganran
yma?
2) Yn
hanesyddol dwi meddwl fod y Cymry wedi bod yn bobol rhi’ parchus a rhi’
neis-neis ac mae hwn wedi rhwystro ni rhag siarad am ein gwir deimladau
3) Yn y
sgyrsiau yma mae elusennau iechyd meddwl yn ein hannog i gael a fydd yna son am
strain, strain bywyd a straen gwaith. Mae strain mwyaf yn dod yn y gwaith neu
fynd nôl a mlaen i'r gwaith mewn tagfeydd traffig.
4) O
oedran ifanc cystadlu ag gwneud yn dda yn dy exams ydy'r prif nod! Dwi'n teimlo
erbyn hyn i gadw eich Iechyd Meddwl mewn cyflwr da mae rhaid i chi dynnu nôl o
fywyd. Roedd cwpl o oriau yng nghanol dinas Caerdydd ddoe yn ddigon i dristau
ag ypsetio fy equilibrium gyda'r swn, yr adeiladu, y traffig.
Beth am
Ŵyl Iechyd Meddwl fel Tafwyl? Dim Cwrw a Chyffuriau. Bodau Dynol yn ymhyfrydu
yn ei chreadigrwydd ac yn ei Iechyd Meddwl #MadPride Bute Parc amdani! Picnic y
gwallgofddyn! Ni fydd croeso i gyfalafwyr.
Un peth
mawr dwi'n teimlo dydyn ddim yn siarad amdano ydy sut mae colli dy iaith yn
effeithio ar dy Iechyd Meddwl? Sut mae aelodau Cymdeithas yr Iaith yn brwydro
heb ddigalonni? Pwy sydd yn edrych ar ôl Iechyd Meddwl nhw? Mae'r nod ffals yma
o Filiwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn mynd i gadw ni yn ffug hapus tan 2021
pan fydd y cyfrifiad nesaf yn digwydd! A fydd na gweithwyr iechyd meddwl yn y gymuned ar law i gynnig cymorth os fydd y canlyniadau ddim fel a disgwyl?
No comments:
Post a Comment