Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Saturday 3 September 2016

Y Pier



Peth anodd oedd peidio tyfu sglodyn ar dy ysgwydd ...... am unrhywbeth, dy daldra, lliw dy ddannedd neu dy ddefnydd o'r iaith Gymraeg. Erbyn dy bumdegau ti'n cerdded o gwmpas dre fel rhyw 'Hunchback' ond gwae a ti ddefnyddio gair mor feirniadol. Ond ble oedd fy mlydi Esmerelda ta? 'Do what you gorra do' oedd mantra Gari a dim lot oedd hynny! Oedd o'n hoffi ei enw! Enw'r chwedegau ar saith degau oedd Gari, o'r Saesneg Gary ond roedd y Cymry wedi rhoi ei stamp unigryw arno fo fel arfer. U bedol neu i ddot oedd cwestiwn ei blentyndod ac roedd o'n ysi am ddefnyddio'r gair newydd yn dechrau gydag Ff roedd o wedi dod ar draws yn llyfrau Leslie Thomas ei arddegau. "U bedol neu i ddot Gari?". "Ffwc knows Miss" oedd ei eisiau ymateb ond mi fasa fo yn rhoi cais arni yn y ffordd arferol. "Wrong" Roedd o’n yn convinced fod rhai athrawon yn cael pleser yn ffeindio bae ar y plant o dan ei gofal. Gofal Ha! Chwerthin gwnaeth Gari allan yn uchel gan roi braw i gath oedd yn torheilio ar wal gyfagos. Digon o feddwl nôl am y cyfnod mwyaf erchyll yn ei fywyd. School! bechgyn a merched ag oedolion sarhaus! Lawr i Bier Bangor oedd Gari'n mynd ar ei 'constitutional' prynhawn. Bob diwrnod o'r flwyddyn fasa fo'n cerdded at y pen a nôl. Roedd hwnna yn dipyn o 50pence pieces ond yn farn Gari roedd o'n money well spent. Teimlo'n rhydd bob cerddediad at y pen. Er cof am hwn ac er cof am y llall! Nifer o bobol wedi marw ac wedi mynd fyny mewn mwg yn yr amlosgfa ar y bryn a'i enwau yn parhau am byth dan sŵn y gwylanod a'r acenion o Ogledd Lloegr. Hen Bier plaen oedd pier Bangor a dyna beth roedd o'n hoffi amdano fo. Dim frills! Understated! Gari yn gwawdio hyn am ddefnyddio gymaint o Saesneg ond rhoi'r bae ar yr ysgol a'i edwcation fasa Gari yn gwneud unwaith eto. Esgusodion di rhy a bai pawb arall. Roedd yn ymwybodol o'i ffaeleddau ond na fo! Rhy hwyr rŵan. Roedd o'n Fifty Five! Ar y domen, fo a'i hump beth bynnag oedd hwnna yn Gymraeg! Mi fasa e nhw yn deud wrtho fo yn ysbyty Bangor neu ryw wyddonydd da'i whiscas yn y Brifysgol. "Ecsuse me ond beth ydy 'hump' yn Gymraeg?' Roedd o'n gwybod ei fod o'n rhoi'r hump i sawl un yn dre. Bobol yn croesi'r ffordd i osgoi fo! Un ffrind honedig un noson yn y Boar yn deud wrtho yn blwmp ac yn blaen beth oedd yn bod gyda fo. Ymddiheuro diwrnod wedyn ond oedd y profiad wedi bod yn agoriad llygad i Gari. Dal dug mae sawl un yn gwneud ynte! Roedd o wedi bod i ffwrdd o'r lush am bum mlynedd bellach! Troi'n fifty a chnocio fo ar ei ben. Dim am y rhesymau arferol ond oherwydd bod o mor flydi expensive. Doedd o ddim yn gofidio am ei iechyd erbyn hyn. Roedd o eisiau 'out' so digon o fenyn ar ei dost yn y bore ag halen y môr, roedd Gari yn byw ar y crisialau. Yn aml fasau fo yn edrych i ddyfnderoedd y dŵr a meddwl sut fath o fywyd fasa fo yn Cantre'r Gwaelod. Roedd o wedi croesi i feddwl o beth fuasai fo yn gwneud tasa fo yn gweld un o'i hen athrawon ar y Pier. Yr athro yna roedd o wedi casáu gymaint. Casineb oedd wedi llifo trwyddo fo fel gwenwyn am gymaint o flynyddoedd. Dim ond hogyn yn ei harddegau all blasu casineb yn ei holl ogoniant. Mae 'na dda a drwg ym mhopeth does! Siŵr fod yna rhyw reswm am yr emosiwn yma neu pam fasa fo yn bodoli yn y lle cyntaf. Roedd Carchar Gogledd Cymru ar fin agor ag roedd Gari wedi gwneud cost analysis yn ei ben! Fasa fo yn cael 'life' ond fasa fo yn gallu pledio dyn laddiad ar old deud wrth y barnwr ei rhesymau am wneud.
Bwyd a diod a chwmni yn dy gell. Teledu! Plenty o S4C ac i gyd ar draul y trethdalwr. Roedd o ar y budd-dal rŵan so beth oedd yr ots. Sbïodd Gari i lawr i ddyfnderoedd unwaith eto, roedd yn dechrau nosi ag oeri. Roedd pysgotwr wedi gadael dipyn o dacl ar ôl. Bachyn neu ddau digon hyll ei olwg. Trodd Gari o gwmpas i edrych lawr y Pier i ble oedd golau bach beic a chanu cwrw yn dod o unigolyn  doedd o ddim wedi gweld ar y Pier o blaen. Dim yr athro gwaetha'r modd ond ei hen ffrind o'r Boar ers llawer dydd. Mae rhaid cael practis yn does! "i ddot neu U bedol Gari?"

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman