Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Sunday 5 June 2016

Myfyrdodau cyn mynd dros Mind.



Fy ngofid mwyaf ydy'r hen fag ar fy nghefn! Trosiad efallai i'r penbledd yn meddwl dyn. Dyn ar fin fynd ar ei daith. Mi ddylwn ni orffen o, ond pryd? Dwi ddim am ruthro! Dwi eisiau mwynhau ond y pwysau bondigrybwyll, y babell a'r dillad am bythefnos ond fel mewn bywyd pa ddiwrnod gwell i dad pacio ag ail pacio eto ond y Sul. Allai weld yn hyn tua Pontcysyllte yn taflu'r bag mewn i'r gamlas. Pwy sydd eisiau cario ei gorffennol o gwmpas rownd gyda fo ond dyna beth i ni gyd yn gwneud yn y bôn? Dwi yn un am weld symbolaeth pethau a dwi yn teimlo fel rhyw fath o ffarwel ydy hwn. Ffarwel i'r Ffin, Ffarwel i Gymru, Ffarwel i'r bag ar fy nghefn. Siŵr faswn ni wedi gallu bwcio pythefnos ar y Costa Del Sol neu mynd i Ffrainc fel pawb arall ond beth bynnag mae'r dorf yn ei wneud, mi a'i'r ffordd arall. Mae 'na rywbeth seimllyd, chwyslyd am y dorf. Pawb yn mynd yr un ffordd ac yn gweiddi heb wybod yn iawn am beth maent yn ei weiddi amdano. Mae rhai unigolion yn cario baich y byd ar ei ysgwyddau ag dwi yn un o rheina dwi'n ofni, neu mi oeddem ni tan i fi cael gwared ar y teledu yn 2006. Deng mlynedd heb erchyllterau gweledol yn anfon fi yn benwan. Nawr mae pethau ofnadwy yn digwydd yn y byd ac mi wn i ddim amdanyn nhw. Estrys gyda'i ben yn y tywod a'i benol yn yr awyr. Ond eto mae dyn yn blino gwneud hynny a dyna pam dwi am wneud rhywbeth ymarferol corfforol oherwydd heb her ag llinell amser mi wnâi ddim byd a dyna beth ddwi wedi bod yn gwneud am y ddeng mlynedd diwethaf waith i chi ddeud. Felli cynnar bore fory pan fyddwch chi yn cysgu'n braf fydd y lleidr hapusrwydd yma yn sleifio allan o'r tŷ yn Grangetown i ddal y trên i Brestatyn i ddechrau ar y bererindod nol i'r de ar y ffin. Pedwar awr i fynd fyny ar tren ag pythefnos o leiaf i ddod yn ôl yn cerdded. Efallai erbyn hynny fyddai wedi dewis peidio bod yn sâl fy meddwl a phenderfynu cyfaddawdu a chael job a phriodi ond annhebyg iawn. 

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman