Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Sunday 9 August 2015

Cydwybod y Car







Ddoe, Sadwrn roedd yn ddiwrnod llawn cyffro i mi oherwydd roeddwn yn gwerthu fy hen gar ar ebay neu bae-e yn y Gymraeg. Ers i ryw feddwyn slammo fewn iddo fe ar noson San Steffan diwethaf, dydy o ddim wedi bod yr un fath. Mi ddaeth y cyffro min nos gyda phedwar yn rhoi cais i mewn ond wnaethon nhw ddim cyrraedd beth maent yn ei alw'r 'reserve', yr isafswm roeddwn i am dderbyn amdano. Dyma'r tro cyntaf i mi werthu un rhywbeth ar bae-e ond ar y wefan boblogaidd yma brynais y car nol yn 2012. Doeddwn ddim wedi cael car ers 2005 oherwydd doeddwn ddim yn ffan o'r ffordd hon o drafnidiaeth ond roedd rhaid i mi deithio mwy aml nôl a blaen i'r Gorllewin a chyfleustra oedd ar fy meddwl ond bois bach mae o'n gostus i gadw car ar y lon y dyddiau yma gyda Threth, Yswiriant, Cost Petrol ac wedyn Gwasanaeth a MOT a hwn am hen gar. Mi wnes i ei hysbysebu fel 'Spares or Repair' oherwydd ar fy hoff ffordd, yr A487, yn Aberarth i fod yn fanwl gywir, mi wnaeth y revometer mynd dros ben llestri a thynnu siapiau arnaf ac erbyn hyn mae'r speedometer wedi pallu. Felli mewn cydwybod dda doeddwn ni ddim yn gallu ei werthu fel car gyda dyfodol. Am 6.40pm ddaeth yr ocsiwn i ben ac mi roeddwn yn falch fod neb wedi ei ennill oherwydd faswn ddim yn hapus erbyn hyn yn deud ta ta i'r peth a chymryd pres da rhywun amdano. Mi weles i wedyn fod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi defnyddio hen gar ar faes yr Eisteddfod i wneud pwynt am ddysgu Cymraeg fel ail-iaith yn ysgolion fel model sydd yn methu a ddaeth i'm meddwl efallai fuasai Cymdeithas yn  gallu ei ddefnyddio mewn protest yn y dyfodol. Dwi wedi cynnig o iddyn nhw ond ddim wedi clywed nôl eto. Os wnânt nhw ddim ffeindio defnydd iddo mi wnâi ofyn i ryw gwmni sydd yn ail-gylchu eich car i ddod i nôl o ac wedyn trosglwyddo unrhyw bres i elusen o'm dewis. Peth ofnadwy ydy cydwybod yn de! Wnaeth eich cydwybod byth arian ar eich rhan, ond drueni doedd dim cydwybod ar y diawl a wnaeth bwrw fi ar noson Sant Steffan a dreifio ffwrdd yng nghrombil y nos.


   

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman