Ar ôl gwario wythnos yn ardal Caernarfon dwi eisiau arwyddo adduned mewn gwaed coch i beidio siarad Saesneg byth eto ond nawr gyda fi yn llithro nôl i'r De fel llipryn dwi'n ymwybodol pa mor anodd ydyw i gadw dy Gymraeg yn erbyn y llif. Mi roeddwn wedi clywed o blaen fod Caernarfon yn 'Gymraeg' neu fel galwyd y Rhufeiniaid arno 'Segontium'. Mi ges i fy swyno gan Sgubor Goch a gan Twthill, brecwast Cymro bach wedyn ar Gaffi'r Maes a 'ffrothi coffi'. Cerdded o gwmpas y Castell a gweld yr hen lys ble cadwyd ein harweinwyr Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams cyn ei drosglwyddo i freichiau'r frenhines ag i ofal Wormwood Scrubs.
Beth oeddwn yn gwneud yng Nghaernarfon cyhyd? Wel mi roeddwn wedi cael y fraint o actio a chyd cyfarwyddo drama a sgrifennwyd gan ddramodydd lleol o dan adain 'Amser i Newid Cymru'. A dan ni nol lats gyda prosiect arall! Gwyliwch y gofod yma!
Dim ond Tri from David Williams on Vimeo.