Language was the absolute key to all of this

Total Pageviews

Sunday, 31 August 2014

Gobeithio fydd pethau yn gwella!

Mae'n amser, hen bryd i mi sgrifennu post yn Gymraeg! Edrych yn ôl mae'r pynciau dwi wedi trafod yng Nghymraeg yn tueddu fod yn negyddol neu gyda naws iselder iddynt. Tybed dyma sut rwyf yn teimlo yn fy nghalon ynglŷn ar iaith. Mae yn drysor teimlaf byddaf byth yn gallu deall na ddefnyddio at ei lawn botensial.



Ceisio dal i fyny ydw i! Dim ond fan golwg fyddaf yn taro dros y cylchgrawn 'Golwg' neu'r papur newydd 'Y Cymro' Mae darllen yn fanwl yn teimlo fel baich ac mae teimlad o ddryswch yn dod drosta’i. Anaml fyddaf yn edrych ar unrhyw raglen deledu. Dwi ddim yn cymdeithasu yn Gymraeg a dim ond siarad gyda fy nheulu. Mae 'na deimlad o israddoldeb yn perthyn i fi a fy mherthynas gyda'r Gymraeg. Wrth gwrs dwi'n teimlo fy mod yn gallu sgrifennu a chyfathrebu yn well yn Saesneg oherwydd dyma'r iaith ges i fy addysg ynddo. Dwi'n parchu'r rhai sydd yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn gyfan gwbl Gymraeg! Maent yn rhoi'r argraff ei fod yn ddigon bodlon ai byd. Tybed y ffordd gorau i hybu'r iaith ydi magu teulu yn yr iaith ond nid fel dyn sengl fydd hwn yn bosib ag dwi'n reit amheus o’r rhyw deg oherwydd profiadau annymunol a fy hanes o iselder ag afiechyd meddwl. Dwi am parhau gyda'r Gymraeg. Mi wnai ceisio fy ngorau ynddi ond dwi ddim yn bles gyda fy nefnydd na fy ymroddiad presennol. Gobeithio fydd pethau yn gwella!

No comments:

Post a Comment

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman