1284 and all that!
Mae'r felltith di codi
mae'r ysgol di cau
ydy o'n deg dwed, wrthyt ti dal ffeindio bai?
Allbost trefedigaethol, staen ar Gymreictod yr ardal
Kraut, Knuckles, Smiley, Chizel, Biffo a Plug
llysenwau heb ei ail mewn ysgol ble oedd y Gymraeg yn olaf
Smiley yn dechrau cangen o'r Urdd a Knuckles yn arwr yn y rhyfel
Sgrifennodd llyfr 'Pum cynnig i Gymro' "What does it say?"
"Mi fydd rhaid i chi ddysgu geirfa", ei hanesion yn saff gyda fi
Lladin yn lle'r Gymraeg, Scripture oedd geiriau'r Beibl
Rygbi mewn ardal peldroed, allanolwr yn cerdded adref yn ei gap bach coch
Freintiedig roedd rhai yn ei galw ni ond ar goll ac yn golledig buodd yn hanes i
Mae'r felltith di codi
Mae'r ysgol di cau
Ydy o'n deg dwed, wrthyt ti dal ffeindio bai?





















No comments:
Post a Comment