Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Sunday 12 September 2021

Carchar Cymru






Dwi newydd wario wythnos yng Nghaerdydd. Dwi'n Cymro gydag ail gartref chi'n gweld sydd yn dipyn o gampwaith i rywun sydd wedi bod allan o waith am un mlynedd ar bumptheg. Mi adawais fy nghartref yn Grangetown tua 2016 i ddod i Geredigion i fod yn gymorth i fy rhieni annwyl oedrannus. Fraint ond hefyd yn her. Her iddynt hwy ddygymod a dyn canol oed oedd ddim wedi gwneud dim gyda'i bywyd er y cyfleoedd euraidd a gafodd. Felli mi roedd rhaid iddynt roi'r gorau iddi gyda rhywun rhwystredig, blin oedd yn rhoi'r argraff i'r byd allanol roedd o'n dipyn o ferthyr oedd yn aberthu.


Yn fy stafell wely yng Nghaerdydd mi wrandawais ar sioe radio 'phone in' ar LBC gyda gwrandawyr yn ffonio mewn gyda storiâu personol dir dynol o ofalu am anwyliaid yn ddi dal a hyn yn sgil penderfyniad llywodraeth Lloegr i godi yswiriant gwladol i dalu am ofal oes ar ôl ymddeol. Yn dreifio dol i Aberystwyth, gwrando ar Any Questions a Peter Hitchens yn ddi flewyn ar dafod yn deud bydd dim o'r arian a godwyd yn gweld golau dydd yn y maes gofal cymdeithasol. Mi fydd o gyd yn mynd i mewn i bwll ddi waelod y gwasanaeth iechyd.


Mae Rishi Sunak a Sajid Javid a'r 'Pen Bandit' Johnson yn amlwg yn gwybod beth maent yn ei gwneud (eironi) ond dyma'r broblem pan mae treth yn cael ei gymryd 'at source'. Mae'r person sydd wedi colli'r pres yma ddim yn gwybod yn iawn ble mae pres nhw yn mynd. Addewidion gan fancwyr Goldman Sachs ag sach o datws (Johnson) fydd ei phres yn mynd at ofalu am yr henoed. Ni wnaethon y Torïaid job dda iawn o edrych ar ol yr henoed yn ystod y pan demig felli pam ddylwn ni cymryd ei gair rŵan.


Drist diddorol oedd gweld ymateb yr 'usual suspects' i'r awgrym o dreth cyfoeth. Yr un ymateb pan ddaeth Corbyn yn agos at furiau castell y sefydliad sef "Fetch the Boiling Oil"


Beth sydd i stopio'r arian yma cael ei ddargyfeirio i ryfela? Pam allet hwy ddim diogelu (ring fence) y pres yma?


Dwi'n sylweddoli fy mod i'n sgrifennu'r darn yma fel dyn sydd ddim yn talu treth oherwydd fy mod i ddim yn ennill dim a dim yw dim. Dwi'n amheus o ddechrau 'ennill bywoliaeth' eto oherwydd y maint a fydd yn cael ei dwyn mewn treth oddi aranai. Ble mae'r ysgogiad mewn difri i weithio'n galed ag rhoi’r mae'n i'r wal pan mae bws mawr y wladwriaeth am daro chi lawr gyda chelwydd arall ar ei ochor?


Mae o'n faith hysbys nid yw'r ddynoliaeth yn gallu bwyta brics ond dyna'r rheswm wnaeth adran gwaith a phensiynau rhoi i mi dros atal fy nghais am gredyd cynhwysol. Mi roeddwn wedi talu 'fy stamp' rhwng oedrannau 21-39 cyn i'r byd a'r betws cael y gorau o fy iechyd meddwl ond eto yn ol y llywodraeth mae rhaid i chi werthu eich eiddo a byw ar beth bynnag gewch chi cyn mynd atynt hwy eto gydag eich bowlen cardota a gofyn am bres y trethdalwyr eto i'w cynnal chi.


Scam ydy'r system dreth fel rydym ni yn ein hadnabod ond oherwydd mae o yn cael ei rhedeg gan dynion a menywod mewn siwtiau mae rhaid cymryd ei gair am bob dim ond pam rydym ni yn esbonio ein sefyllfa iddynt amheuaeth ddrwgdybus gawn ni yn ei ol.  


Dwi wedi sgrifennu at Lywodraeth Cymru yn cynnig fy nhŷ yng Nghaerdydd i ffoaduriaid o Afghanistan oherwydd mi roeddwn yn teimlo fel carcharwr gan fod yn ol yna, felli dyma fi unwaith eto yn rhoi'r argraff i'r byd allanol fy mod yn ferthyr sydd yn aberthu.  

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman