Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Friday 25 June 2021

Cymru, Lloegr a Llanrwst


Ges i frêc yn ddiweddar. Dyn di waith yn cymryd gwyliau. Glywsoch chi fasiwn beth? 

Hoe fach yn y Gogledd. Cerdded o gwmpas Pen y Gogarth, dros fynydd Conwy i Ddwygyfylchi ac ar y diwrnod olaf cerdded ar hyd yr afon Conwy rhwng Llanrwst a Betws y Coed. Godidog. Yn anffodus roedd y trefi yma dan ei sang dim just gyda thwristiaid fel y ni ond gyda traffic. Loris mawr yn mynd trwy Lanrwst a phaned o de yn ysgwyd ar y bwrdd tu allan i Cafe Contessa. Betws y Coed wedyn, yn waeth na dwi yn ei chofio. Ymwelwyr fel zombies yn sbïo lawr i ddyfnderoedd y dŵr i geisio cael cip ar ei adlewyrchiad.

Mae'n bwysig cael amser i fyfyrio ar y byd a'i betws ond yn well i ffwrdd o'r gwallgofrwydd maent yn ei alw'r diwydiant twristiaid yng Nghymru. Acenion gogledd orllewin Lloegr roedd y mwyaf cyffredin a phobol hael a chynnes gan amlaf. Dyna ydy broblem i genedlaetholwyr Cymraeg. Mae'r bobol maent yn ei diawlio am sbwylio ei wlad, gan amlaf yn neisiach bobol na nhw ei hunan. 

Felli beth wnewch chi? Cwyno? Ew, rydym yn hen giamsters ar y difyrwaith yna.

Beth allwn ni wneud yn ymarferol i wella ansawdd yr amgylchedd fel ei fod yn deg i ymwelwyr ac i bobol leol fel ei gilydd?

Mae lefelau traffic yn waeth neu tua'r un cyfartaledd roeddent cyn cyfnod y clo. Gormod o geir a dim digon o le i barcio. Gormod o geir i ffyrdd a gafodd ei adeiladu yn dridegau'r ganrif ddiwethaf. Gormod o geir a loris yn teithio trwy drefi a phentrefi Cymru yn achosi tagfeydd megis Llandeilo, Llanrwst, Betws-y-coed, Talybont, Llanon, Aberaeron ayb. 

Mae 'na gynlluniau 'Park & Ride' yn ein dinasoedd ni. Fasa cynlluniau tebyg yn gweithio yn y fro? Yn Barc Cenedlaethol Eryri. Cae mawr yn debyg i'r Eisteddfod Genedlaethol i barcio ceir a bysys bach Sherpa yn mynd a phobol i mewn i Lanrwst a Betws y Coed wedyn. 

Gyda nifer yr ymwelwyr fasa yn saffach i drefnu ardaloedd i gerddwyr yn unig. Mae o yn frwydr barhaol rhwng seiclwyr, cerddwyr a dreifwyr car ac wedyn y pla o motobeics ganol haf. Pawb yn dod i gael cipolwg ar brydferthwch Cymru. A ninnau yn euog o'r un peth rŵan nawr mae Magaluf a Benidorm ar gae i ni. Hwntws yn mynd i'r Gogledd am jolly. 

Un peth sylweddolom, mae na pres mawr ym Marina Conwy ac yn Neganwy. Tybed a Chymru gyffredin sydd bia'r cychod mawr crand yma a'r tanciau mawr sydd yn byrlymu ar hyd yr A55 yn gwneud sŵn mwyaf dychrynllyd?

Un peth cytunwyd arno ar ôl y gwyliau, roedd y distawrwydd a byd natur yn falm i'r enaid ond roedd y traffic a nifer yr ymwelwyr yn ormod i ddygymod a nhw.

Mewn 'nanny state' Brydeinig mae o yn rhyfeddod i weld sut mae cymdeithas yn disgwyl i gymaint o bobol plismona ei hunan yn nhermau ymddygiad pan maent ar grwydr yn wlad wahanol.

Un fendith o'r gwyliau bach yn wlad ein hunain glywsom ni ddim gair o'r gân 'One Nation, One Britain'. Rydym wedi cael ein concro ond mae dyn yn cael yr argraff fod y concwerwyr ddim eisio rhwbio fo mewn, dim tan ddiwedd yr Euros beth bynnag.    

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman