Pa well diwrnod na Gŵyl y Banc i sgrifennu blogiad yn y Gymraeg gan feddwl am y sylw fod yr hen iaith wedi ei gael gan feddwl am yr Wyddfa? Dim ond mewn gwlad sydd wedi cael ei goncro basa rhaid i ddyn a dynes mynnu fod pawb yn cynnwys ymwelwyr yn defnyddio'r gair Gymraeg am fynydd uchaf Cymru a Lloegr. Efallai dyna pam fod 'na fath ymateb "Our mountain is bigger than any of your mountains" Rhydd i bawb ei farn ond ddim mewn gwlad sydd wedi cael ei is raddio gymaint i blesio ymwelwyr. Fel dwedodd cyfaill o ardal Porthmadog yn ddiweddar "Braf i weld nhw'n dod i gefnogi'r busnesau lleol ond well fyth gweld nhw'n gadael ar ddiwedd yr haf".
O gopa'r Wyddfa allwch chi weld Castell Caernarfon? Dwn'im, flynyddoedd ers i mi botsio fyny fancw ond i mi dyna wraidd y broblem i bawb yn y Deyrnas Unedig ond y Teulu Brenhinol Windsor. Teulu Brenhinol y Normaniaid concrodd Cymru nol pryd oedd o dw’ch ag ers hynny rydym wedi cael y Prince of Wales wedi foistio arnom ni. Nawr dwi am ddeud rhywbeth fydd yn cael y Cenedlaetholwyr Cymraeg yn gacwn. Dwi'n Weriniaethwr Prydeinig cyn i mi fod yn unrhyw beth arall. Fydd na ddim hir oes 'na sylfaen cadarn i annibyniaeth i Gymru a'r Alban tan i deulu Brenhinol Lloegr cael ei chwalu felly yn fy nhyb 'gwrth gwyddonol' i fasa fo'n well i ymgyrchu yn erbyn y teulu brenhinol na dros annibyniaeth i Gymru. Ych chi wir yn meddwl fod pobol mor ddadleugar yn fewnol a ni yn mynd i guro Imperialaeth Brydeinig heb gael gwerin Lloegr ar ein hochr? Dyna pam collon ni yn y lle cyntaf, canrifoedd yn nol.
Beth ydy eich strategaeth felli eich mawrhydi? Well diolch am ofyn. Fydd rhaid i wrth frenhiniaeth yn fod yng nghlwm i unrhyw ymgyrch annibyniaeth. Mae rhai pethau dydych ddim yn gallu fod yn niwtral amdanynt ac mae brenhiniaeth a monarchiaeth yn un ohonynt. Sut fuasa dinasyddion Cymru a'r Alban yn teimlo tasent yn mynd yn annibynnol o Westminster yfory a gweld fod ei gyd ddyn yn Lloegr dal yn gaethiedig i system dosbarth (class system)
Faint o blant sydd gyda William erbyn hyn dw’ch? Mae o a'i wraig yn cenhedlu fel un o bunny huggers Boris Johnson. Os ydych yn hapus i adael i'r Eton elite lordio fo dros y Saeson gyda ni ac ein traed yn rhydd well parhewch gydag eich sticeri ar bolion lamp ag eich baneri ar bontydd ag cylchfannau. Mae'r 'mood music' yn erbyn y frenhiniaeth yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd ag mi fuasa fo yn talu ar ei ganfed i'r mudiadau cenedlaetholgar ymuno gyda'r gerddoriaeth yma.
Mwynhewch os dych chi'n mynd ar ben yr Wyddfa heddiw.
No comments:
Post a Comment