Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Tuesday 14 July 2020

De-sensitising the Welsh


Dwi di benderfynu na un o fy rholiau i ar y cyfryngau cymdeithasol ydy mynd i di-sensiteiddio y Cymry. Mae'n dangos pa mor 'touchy' i ni achos does 'na ddim gair Cymraeg am di-sensitise. Dwi'n un o rain sydd yn gegrwth pan dwi'n gweld pile on gan twitter Cymraeg yn erbyn rhywun sydd wedi bod mor ffôl ag edrych y ffordd anghywir arnom ni. 

Mae'r rhestr o dramgwyddau yn rhi hir i restri fan hyn. Os i chi yn un o rheina sydd rhaid ymateb i bob 'sleight' fyddwch yn gwybod yn iawn am bwy dwi'n sôn. O Rod Liddle yn sôn am y tywydd a'r Guardian yn deud pethau am gaws bythynnod a hiliaeth honedig yn Ogledd Cymru. Mae 'na wedi bod gymaint o dramgwyddau bach dwi'n anghofio nhw gyd rŵan. Y tro diwethaf i mi ymuno mewn pile on oedd yn erbyn y comedïwr Omjid Djalili pan wnaeth o sylw am arwyddion Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin ag dim ond achos o ni yn meddwl ddylse comediwr wybod yn well. Cheap laughs di rheina yn de?

Mae o yn seicolegol dealladwy pam rydym yn ymateb fel hyn. Rydym yn lleiafrif yn ein gwlad ein hunan (honedig) rheina sydd yn siarad Cymraeg. Mae'r iaith dan fygythiad enfawr ac wedi bod ers canrif a mwy. Dydy gôr ymateb i bob sylwad am yr iaith ddim yn mynd i achub yr iaith. Mae o yn anfon ni yn fwy amddiffynnol amdano fo, mwy ofnus a mwy cecrus. 

Os ydych wedi byw rhywle arall yn y Deyrnas Gyfyngedig neu tramor mi gewch chi bersbectif gwahanol ar Gymru fach ond os ydych wedi byw a bod ar hyd y blynyddoedd yn eich milltir scwar heb ddylanwadau allanol mi all y byd edrych yn lle ymosodol a fygythiol iawn. 

Ydy'r Cymry yn gallu gwneud hwyl ar ben ei hunain? Ydych chi'n meddwl basa fo'n beth iach i wneud, er lles iechyd ein henaid fel cenedl? Neu ydych chi'n meddwl taw annibyniaeth ydy popeth ag mi gawn chwerthin ar ein hunain unwaith ein bod ni'n faterol dlotach? Atebion ar gerdyn post os gwelwch yn dda ac anfonwch i Sïon Corn yn Gastell Coch.

Mae fyny i chi wrth gwrs beth rydych yn gwneud ond fel mae dyn yn heneiddio mae o yn sylwi pa mor ffôl ag emosiynol mae o wedi bod yn gôr ymateb i bethau bach ddi bwys.

No comments:

Post a Comment

I am a poet dahling not a paramedic

  I have not written a blog post in the month of April 2024 yet and it is the 22nd already. As I type this I do not know what I am going to ...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman