Bardd Cocos ta Bardd Talcen Slip?
Fi ddim yn un o'r beirdd go iawn
Rhy’ clyfar, rhy grefftus, rhy fedrus
maent yn rhoi fy efforts yn y shade ond wyddoch chi fod sgrifennu Wenglish fel hyn ddim mor hawdd.
Mae cael y cyfuniad cywir o air Cymraeg ag un Saesneg yn rhethreg
Rhegi dwi eisiau gwneud bob tro wrth foddi da'n tomen o lo.
Dyna ein hanes ni yn y bôn.
Gwneud mor a mynydd o benderfyniad y ref.
Pryd ar ddaear galwyd ef yn TMO, gobeithio fod cynnwys ei ginio yn GMO.
Dwi ddim yn dilyn y bel hirgrwn bellach ar ôl sylwi ar ei phlu, after all gyda knighthood neu tri, dydyn nhw ddim yn cynrychioli fi!
Rydym mewn rhiw 'limbo land' hyll o fyd ar hyn o bryd.
Neb yn siŵr beth i wneud na dweud.
Dynion a Menywod yn really afraid o'i gilydd.
Dienyddio dyddiol ar y sianeli digidol
Ysbryd Beca yn cuddio dan sgertiau Gang y Llawes Goch.
Pobol yn dadlau dros dal am ddarllen y newyddion
Popeth yn fras a phobol yn gas.
Mae bywyd fel ras, un yr ydych yn siŵr o golli.
Does 'na ddim gair am "immortality" yn Gymraeg , byw am byth, byth yn marw
oh oes bollocks anfarwoldeb, diolch byth achos
Ti ddim yn gallu cael dau byth yn yr un frawddeg.
Mae hwnna yn gwneud o dri.
Rheolau, dydyn nhw ddim yn berthnasol i fi.
Ffeindio pwrpas mewn bywyd heb golli dy hun ydy'r unig beth all cwblhau'r llun.
Felli pop pickers yn eich barn chi,
Pleidleisiwch am
1) Bardd Cocos
neu
2) Bardd Talcen Slip
No comments:
Post a Comment