Casineb yn ei galon a dryll yn ei law
Iechyd Meddwl mai'r diawl Donald yn deud?
Sut mae iechyd meddwl yr Unol Daleithiau tybed?
Dim ond ni'r unigolyn sydd gydag iechyd meddwl nid y wlad na'r gymdeithas ehangach?
Dydyn ni ddim ond y canlyniad i gymdeithas ehangach ac os yw'r gymdeithas yna yn deud mae gynnon ni'r hawl i gario arfau does dim ots am y gwenwyn sydd wedi cael ei thywallt i mewn i'r twndis cyn hyn.
'Nineteen' ganodd Paul Hardcastle am oedran y milwyr aeth allan i ymladd dros yr Unol Daleithiau yn Fietnam. Oedd hwn wrth gwrs yn rhyfel cyfiawn yn deillio o gymdeithas ag gweledigaeth iach?
Tybed beth rydym yn gweld bob tro mae rhywun yn lladd fel hyn ydy rhyw fath o 'Karma' yr oes newydd.
Rhyw fath o 'payback' i ddefnyddio gair Hollywood am beth ddigwyddodd yn 'Wounded Knee'?
Claddwch fy nghalon yn ben-glin clwyfedig.
Mi fydd na sawl claddedigaeth dros y dyddiau ac wythnosau nesaf ag mi fydd rheolau arfau ag iechyd meddwl yn cael ei thrafod trosodd a throsodd.
Efallai beth sydd yn dod yn fwyfwy amlwg ers 9/11 ydy fod y wlad ag y cyfandir enfawr yma wedi cael ei felltithio, ddim gan gan (song) na chwedl y brodorion cynhenid ond gan ei weithgareddau ei hunan ers Datganiad Annibyniaeth nol yn 1776.
Beth ddaeth y dyn gwyn gyda fe o gyfandir Ewrop?
Casineb yn ei galon a dryll yn ei law.
No comments:
Post a Comment