Darlledwyd darlith enwog Saunders Lewis Tynged yr Iaith ym 1962.
Mae cynnwys y ddarlith yn eithaf cyfarwydd i'r Cymry Cymraeg; disgrifiodd Lewis sut oedd llywodraeth Loegr wedi mynd ati yn systematig i ddiddymu’r iaith Gymraeg. Ym marn Lewis, dechreuodd y proses gyda Deddf Uno Cymru a Lloegr ym 1536 pan gollodd y Gymraeg ei statws swyddogol a chyfreithiol a pharhaodd y diraddiad o'r iaith am dros 400 mlynedd wrth i Loegr mynd ati i homogeneiddio ei ddominiynau dros y byd. Weithiau bu ymosodiad uniongyrchol yn erbyn yr iaith fel gwelwyd gyda'r adroddiad ar gyflwr addysg yng Nghymru 1847. Roedd yr adroddiad yn rhoi bai am anghydfod a therfysgaeth dechrau'r ganrif ar y Gymraeg ac yn mynnu bod yr iaith yn anfantais fawr i'r Cymry ac yn eu rhwystro o ddatblygu yn foesol ac yn fasnachol. Efallai siom fwyaf yr adroddiad oedd y ffaith y comisiynwyd gan Gymro o Sir Gaerfyrddin. Does dim syndod felly enw'r Cymry Cymraeg ar yr adroddiad yw 'Brad y Llyfrau Gleision'
Pum mlynedd ar hugain ar ôl darlith Lewis, byddai dyn ifanc di-nod, di-gymraeg yn dechrau gweithio mewn ffatri fach ar gyrion Yr Hendy yn Sir Caerfyrddin. Pe bai'r dyn wedi clywed am Saunders Lewis rhywbryd yn ei fywyd yr oedd wedi hen anghofio erbyn hynny; prin iawn oedd dylanwad y Gymraeg ar ei fywyd ac oedd yn sicr ei farn nid fe oedd yn gyfrifol am ddirywiad y Gymraeg - ond roedd hynny ar fin newid.
Roedd gweithlu'r ffatri yn dod o'r trefi a phentrefi cyfagos a chafodd y dyn ei synnu gan faint o Gymraeg oedd i'w clywed o gwmpas y gweithle. Rydyn ni'n i gyd wedi clywed y stori am y Sais gerddodd i mewn i dafarn a phawb yn troi o'r Saesneg at y Gymraeg ond profiad y dyn oedd rhywbeth yn hollol i'r gwrthwyneb. Byddai grwpiau bach o bobl oedd yn siarad Cymraeg yn troi at yr iaith fain wrth iddo fe nesáu atyn nhw er mwyn gwneud yn siŵr ei fod e ddim yn cael ei eithrio o'r sgwrs. Am y tro gyntaf yn ei bywyd yr oedd yn medru gweld mai e oedd rhan o broblemau oedd yn wynebu'r iaith a chymerodd y penderfyniad i ddysgu'r iaith er mwyn sgwrsio a'i gydweithwyr.
Braidd yn optimistaidd oedd y gôl honna efallai gan fod ei unig brofiad dysgu iaith cyn hynny oedd cyflawni gradd E lefel O Ffrangeg! Cymerai ddeng mlynedd o ddysgu a llwyth o diwtoriaid amyneddgar talentog iawn i gyrraedd safon digon da i'r Cymry Cymraeg beidio troi bob sgwrs yn syth at y Saesneg er mwyn hwyluso pethau.
Beth ddigwyddodd i'r dyn hwnna yn y pendraw? Wel ar ôl dros ddeng mlynedd ar hugain, mae e frwydr feunyddiol yn erbyn y treigladau yn parhau (nhw sy'n ennill gyda llaw), ac erbyn hyn mae dau fachgen gyda fe sy'n mynd i ysgol uwchradd Gymraeg ac sy'n ddwli ar gywiro Cymraeg eu tad. Fydd ei Gymraeg fe byth yn berffaith, byth yn raenus ond o leiaf mae'n cael ei chlywed ar yr aelwyd bob dydd, a heddiw mae e'n cael y fraint o ysgrifennu darn bach i ddathlu pen-blwydd blog ei ffrind a chydfilwr yn frwydr i gadw'r iaith yn fyw fel dymunai Saunders Lewis.
Felly beth yw meddyliau fi ynglŷn â thynged yr iaith erbyn heddiw?
Mae sawl tro ar fyd wedi bod ers i Saunders Lewis mynegi ei farn ym 1962. Mae twf sylweddol wedi bod yn narpariaeth addysg Cymraeg, cafodd S4C ei lansio ym 1982, ym 1993 diddymwyd y Ddeddf Uno gan y ddeddf iaith, ym 1997 pleidleisiodd Cymru o blaid creu Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn refferendwm a'r llynedd cyhoeddwyd strategaeth gan lywodraeth Cymru i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Er hynny i gyd mae niferoedd sy'n medru'r iaith heb eu newid llawer dros yr hanner ganrif diweddaf yn ôl yr ystadegau, ac wrth i mi ddychwelyd i ddechrau fy nhaith ieithyddol a chrwydro strydoedd pentrefi a threfi Sir Caerfyrddin unwaith eto dw i'n sylweddoli mai ychydig o Gymraeg sydd i'w glywed o gymharu â deng mlynedd ar hugain yn ôl pan ddechreuais i weithio mewn ffatri fach. Efallai bod hen elynion fel y Ddeddf Uno wedi'u trechu ond mae'r rhyfel yn parhau wrth i dechnoleg newydd ddod a thon ar ôl ton o ddiwylliant Saesneg i ni ar Netflix, Youtube a'r Xbox. Hefyd mae ambell 'bradwr' i'w gael o hyd yn ysgrifennu llythyrau maleisus at y Western Fail yn cwyno am y gwastraffu arian ar y Gymraeg.
Fel Lewis dwi'n teimlo 'nad Cymru fydd Cymru heb y Gymraeg'. Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â'r dywediad 'cenedl heb iaith heb galon'. Tybed yw curiad calon ein cenedl dechrau mynd yn wan?
No comments:
Post a Comment