Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Monday 13 March 2017

Rhagfarn Erdoğan



Un o'r ffilmiau mwyaf brawychus weles i yn ddyn ifanc roedd yr uchod sef ffilm Alan Parker 'Midnight Express' gyda'r newydd ymadawedig John Hurt ynddo fo. Creodd y ffilm rhagfarn yn fy meddwl am y wlad Twrci, wlad a phobol roedd yn cael ei phortreadu yn gas, mileinig a gul. Ffilm am Americanwr gafodd rhoi mewn i garchar am smyglo 'hashish'. A dyma ni yn 2017 gyda Erdoğan, arweinydd Twrci yn galw yr Iseldiroedd yn Ffasgwyr. Mae da Erdoğan a fi rhywbeth yn debyg, rydym ein dau wedi ein carcharu am pedwar mis, fo am sgrifennu barddoniaeth a fi am gôr ymateb i trychineb ar ôl smocio gormod o hashish. Byd bach bois bach! Gafodd o ei garcharu yn Nhwrci ac mi ges i fy ngharcharu yn yr Iseldiroedd. Ers i mi gael fy rhyddhau yn 2005 dwi wedi dilyn hynt a helynt y wlad honedig Ryddfrydol yma a dydi o ddim yn syndod i mi o gwbl fod plaid asgell dde Geert Wilders yn edrych fel bod yn blaid gwrthodol yn y senedd nesaf. Mi ddaeth digon clir i mi oherwydd roeddwn yn y wlad am tua naw mis i gyd fod yr Iseldiroedd yn Rhyddfrydol gyda r bach. Gwlad Geidwadol iawn yn y bôn ydyw gyda'i hanes yn debyg i un Brydain o Brotestaniaeth a coloneiddio gwledydd eraill. 
      Doedd na ddim lawer o dynion gwyn yn y carchar gyda fi oni bai am un Scowsar ag mi ffeindiwch i un o rheina ym mhob man. Mwslemiaid oedd yn anfon fi'n fwy penwan nag oeddan ni yn barod gyda’i 'Call to Prayer' a rhyw Jiin yn ei gell yn galw allan enw ei ffrind bob pum munud 'Susie, Susie'. Roedd 'na dau ddyn o Dwrci yn y man gwaith yn sbïo arna i fel y gwallgofddyn yr oeddem ni ac yn chwarae gyda'i prayer beads yn fastach pan roeddwn yn ceisio siarad gyda nhw. Dwi ddim yn un o'r Prydeinwyr yma sydd yn addoli Twrci fel lle bendigedig i fynd ar ei gwyliau, dwi'n Gymro sydd yn beirniadu nhw am fod mor fileinig ar Kurdiaid, y PKK. 'One State's Terrorist is another land's Freedom Fighter' a phallu. Dwi'n gwybod un peth. Dwi'n falch yn Amsterdam es i yn wallgof a ddim yn Istanbul oherwydd dwi ddim yn meddwl baswn yn fyw heddiw i sgrifennu hwn. Mae'r Pysgotwr Siarcod yn gallu gweld rhyw sail i honiadau Erdoğan oherwydd roedd 'na rhain o ddinasyddion yr Iseldiroedd yn cydweithio gyda'r Natsïaid. Roedd Bennaeth yr Heddlu Sybren Tulp yn ystod y rhyfel yn ddyn brwdfrydig dros wneud gwaith y Natsïaid a fy marn bersonol i o'r Heddlu yn y wlad honno ydy ei fod nhw yn llawdrwm. Maen nhw yn llawdrwm oherwydd ei bod nhw yn ofnus. Ofnus o'r ffaith fod 'na gymaint o Fwslemiaid yn y wlad a chanran o rain sef 400,000 ydy dinasyddion Twrci. Allwn gweld o'r tu allan pam fod Erdoğan am wneud y fath stŵr. Mae o eisiau dangos i'r byd Islamaidd ac i'r bobol nol adref fod o ddim yn ofni'r Gorllewin. Ond mae'r agwedd polareiddio yma yn rhemp ar draws y byd erbyn hyn. "Arhoswch chi yn eich ogof chi ac mi wnawn ni aros yn ein hogof ni" Efallai roedd ein meddylfryd ni erioed wedi bod fel hyn ers oes dyn yr ogof a dim ond honni na waraidd ydym ni! Mi rydan ni wedi symud nôl i oes yr unben sef pennaeth yr ogof. Trump ogof America, Putin ogof Rwsia a Erdoğan ogof Twrci. Mae Wilders a Farage a Le Pen yn benaethiaid ar ogofau llai ac sydd yn cael ei hambygio gan y lleiafrifoedd mwy Rhyddfrydol asgell chwith, o gwmpas y tan.




No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman