Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Thursday 26 January 2017

Sais addolwr

A ydw i yn Sais addolwr? Chwedl Emrys ap Iwan. Sylweddoli heddiw wna'r cyfnodau hapusaf o fy mywyd oedd y rheina pan roeddwn yn byw tu allan i Gymru. Camgymeriad o'r mwyaf oedd symud i Gaerdydd nol yng nghanol yr wythdegau ag yr unig reswm mi wnes i hynny oedd oherwydd fy mod wedi cael fy nal yn yfed a gyrru ar y Denbigh By Pass yn un ar hugain oed. Mi roeddwn yn byw ym Mae Colwyn ac yn teithio bob dydd i fy ngwaith ym Mae Cinmel. Ar ôl colli trwydded gyrru dyma fi yn penderfynu fel yr hen chwarelwyr gynt i fynd i'r 'Sowth'. Mi roeddwn wedi cael fy ngeni ym Mhen y Bont ar Ogwr felli mynd yn ôl roeddwn ni after all! Ond heb wybod i mi ar y pryd mi roeddwn yn dod ag afiechyd meddwl lawr i'r De gyda fi. Afiechyd Meddwl oedd yn gymysgedd o natur/maethu. Mi roedd hanes yn y teulu ag mi roeddwn yn hogyn tawel, 'withdrawn'. Mi wnes i ddechrau ynysi fy hun yn fy arddegau ac mae'r arferiad o gilio rhag bywyd a phobol wedi fy nilyn trwy fy mywyd fel oedolyn. I raddau mae wedi bod yn fecanwaith amddiffynnol sydd wedi cynorthwyo fi i osgoi rhan fwyaf o sefyllfaoedd annifyr a phobol amheus. Ond fel pawb dwi wedi cael fy siâr o rheina oherwydd mi roeddwn yn gaeth i bethau oedd yn gwneud i fi teimlo'n well, fel nicotine, cannabis ag alcohol. Mae'r cyflwr dau begynol yma yn ddisgrifiad da o fy mhersonoliaeth. Cymeriad 'All or Nothing'. "One Pint was too many and eight was not enough". Ar ôl byw a bod yn De a Gogledd Cymru a dod i'r casgliad fod y wlad yn ddau begynol, rhyddhad o'r mwyaf oedd symud i Loegr ar ddau achlysur, unwaith i Watford fel myfyriwr yn fy arddegau hwyr ag yn ail fel athro yn Ne ddwyrain Llundain yn dechrau'r mileniwm. Cyfnodau pan oeddwn yn weddol gytûn. Ddim yn hapus ond ddim yn anhapus chwaith. Roedd yn rhyddhad jest i fyw a bod. Gwrando ar y radio prynhawn yma ac ar y ddadl am gadw enwau Cymraeg ar lefydd. Un dyn o'r Gogledd yn lladd yn hallt ar y Saeson oedd yn dod mewn i'r pentrefi ac yn mynnu cael pethau ei ffordd ei hun. Mae yn hawdd ac weithiau anorfod i gyffredinoli ond beth ddwi'n meddwl ydy fod yr Iaith Gymraeg dan fygythiad dim oherwydd y Saeson ar mewn llifiad gymaint ond oherwydd y Cymry ddi Gymraeg ei iaith sydd yn gobeithio bydd yr iaith yn marw allan iddynt hwy beidio teimlo'n israddol oherwydd hynny. Canran uchel ardaloedd ôl glofaol De Cymru ble ddaeth gymaint o bobol i mewn o'r tu allan i chwilio am waith.Yn yr wythdegau a nawdegau tywyll doedd dosbarth gweithiol Caerdydd ddim am glywed yr iaith Gymraeg a dwi ddim yn meddwl dwi wedi dod dros y siom o weld a chlywed agwedd pobl y brifddinas i'r iaith gynhenid. Dyn ar stôl yn y Westgate Pub yn troi ac yn sythu i fy llygaid "It's nice to hear a dying language". Mae wedi newid cryn dipyn erbyn hyn gyda'r 'bright young things' wedi dod i mewn i Grangetown ond dwi dal ar dan i adael. Mae'n swnio'n rhi’ syml ddeud ond cyfalafiaeth sydd wedi lladd yr iaith Gymraeg. Os i ni am barhau mae rhaid i ni newid ein diwylliant a pheidio efelychu'r diwylliant Eingl-Americanaidd. A oes modd i ni symleiddio bywyd neu ydan ni wedi arfer ar y bywyd bras yma? Oherwydd bod gymaint o'n cyn teidiau wedi cyfaddawdu i'r Ymerodraeth Brydeinig rydym yn y cawdel yma heddiw. Mae yn uffern o gyfrifoldeb ond fel wedodd TH Parry Williams 'Ni allaf ddianc rhag hon"  
 
Rapper with Glasses from David Williams on Vimeo.

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman