Llythyr at Cylchgrawn Golwg
Roedd y llun ar dudalen 10 Cyfrol 29 Rhif 17 Rhagfyr 22 yn deud cyfrolau am ein sefyllfa wleidyddol ni heddiw. Y ffaith ein bod ni heddiw yn astudio'r FWA, Cymdeithas yr Iaith a Meibion Glyndŵr yn lle gweithredu ar ei rhan yn dangos ein bod wedi drifftio nôl i wlad y menig gwynion. Fasa tri aelod o'r mudiadau yma yn dal ei deunydd yn fwy trawiadol na tri ysgolhaig yn dal papurau ond wrth gwrs fasa’ rheidrwydd ar aelod o Feibion Glyndwr i wisgo lan mewn Balaclava neu Feret da sbectol dywyll. Pob lwc iddynt ar ei gwaith ymchwil. Radical Iawn.
Pysgotwr Siarcod yng Nghymru
No comments:
Post a Comment