Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Saturday 31 December 2016

Balls i Brydeindod


"A ydy'r sefyllfa yn anobeithiol? Ydy', wrth gwrs, os bodlonwn ni i anobeithio. 'Does dim yn y byd yn fwy cysurus nag anobeithio. Wedyn gall dyn fynd ymlaen i fwynhau byw."

Balls i Brydeindod neu geilliau i Genedlaetholdeb Prydeinig. Heddiw di'r diwrnod mae'r Frenhines a Buck House yn tynnau'r cwlwm rhedeg o gwmpas cwd y genedl Gymraeg gan ddosbarthu anrhydeddau fel fferins yn Ffair Borth. A pwy ydan ni i wrthod? Rhai dewr sydd yn deud na. Roedd L.S Lowry yr arlunydd yn un a wrthododd ar sawl achlysur, David Bowie un arall ag heddiw Lynn Faulds Wood, a llongyfarchiadau mawr iddi hi. Ond mae Bryn Terfel wedi derbyn a Chris Coleman hefyd a pwy ydan ni'r cenedlaetholwyr Cymraeg cynddeiriog i feirniadu? Maent wedi gwneud gymaint dros ganu a phêl-droed yn do? Canu a phêl-droed hmmmm. Oleua mai ymdrechion y tîm ffwtbol dros yr haf yn newid agwedd o'r tu allan tuag aton ni. Nid bellach gwlad y bel hirgrwn ond pa bynnag siâp y bel mae'n amlwg ni allwn dal nhw fyny i ddosbarth uwch Lloegr pan mae losin a da da yn cael ei rhannu allan. Esiampl arall o rannu a gorchfygu ar ran yr ymerodraeth Brydeinig. Pwy a ŵyr beth a ddaeth ar ein traws fel cenedl yn 2017? Efallai fydd o'n fwy derbyniol i alw pâl yn pâl (spade) yn lle'r rhaw (shovel) bondigrybwyll. Fydd rhaid i ni ddeud yn gwbl gyhoeddus, heb ofni am ein swyddi neu ein safle yn gymdeithas, ein statws, os yw rhywbeth yn mynd yn groes i'r graen. Mae unfed awr ar ddeg Saunders Lewis wedi troi i mewn i bum munud i hanner nos.  'Does dim yn y byd yn fwy cysurus nag anobeithio. Wedyn gall dyn fynd ymlaen i fwynhau byw.' A dyna fydd yr her i ni yn 2017, i gario mlaen yn yr un hen ffordd a gobeithio am newid neu geisio dod at ein gilydd mewn ffordd wahanol i Eisteddfod. Yn lle cystadlu yn erbyn ein gilydd, wyl fawr wleidyddol yn debyg i Woodstock ond heb y canu a chwarae pel droed.  I gau, yr unig beth allai ddeud ydy peidiwch â digalonni ond mae anobeithio yn iawn oherwydd allwn ni gyd wedyn mwynhau byw.  

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman