Doedd na ddim croeso i mi mewn lle gwely a brecwast yn Llanymynech, y pentref cyntaf yng Nghymru felli cerddais ymlaen i Four Crosses ac mi wnes i bwyso'r gloch y funud wnaeth Cymru scoria’r gôl wnaeth ennill y gêm yn erbyn Slofacia. Wnaeth y drws agor at sŵn bloedd fawr "You'll have to excuse my husband, he's Welsh", "so am I" wedes i ond golwg digon anghredadwy roedd ar ei hwynebau nhw pan wedes i fy mod i'n byw yng Nghaerdydd. Cyn hyn edrychais draw at fynyddoedd y Berwyn a meddyliais "Tu ôl i fanna mae Cymru yn bodoli oherwydd dyna ble mae'r Iaith Gymraeg yn cael ei siarad". Mae yn gwneud i fi feddwl fod cyfuniad o ddosbarth rheoli Lloegr a Sais addolwyr, Rhyddfrydol Cymru, wedi dod i ryw ddealltwriaeth na gadael pethau yn agored ac yn llifo fel yr afonydd ar y ffin oedd y syniad gorau. Tasa na rhyw 'Sentry Box' yn Llanymynech gyda milwr mewn lifrau'r Free Wales Army, fuasa hwn yn atgoffa'r dreifwyr ar ei ffonau ei bod nhw yn symud o un wlad i'r llall ond dwi'n siŵr ar ôl iddynt stopio i gael ei passport wedi checkio fuasent yn gweud fel y dyn o Seland Newydd "Who Cares?"
Ag basa’r soldiwr yn ymateb "Well the Maori do....."
No comments:
Post a Comment