Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Wednesday 6 April 2016

Gwylliaid Cochion Mawddwy


Ges i syniad bore mha, 'as you do'. Beth dasa na grŵp o bobol yn dechrau commune yn Ganolbarth Cymru a nod y commune yw bod pawb i siarad Cymraeg, dim Saesneg na unrhyw iaith arall. Fydd y commune yn gymysgedd o wyry a menywod yn ei ugeiniau ac mi fydd disgwyl iddyn nhw genhedlu fel cwningod gwyllt. Wrth gwrs fydd y rhieni yn medru Saesneg ond fydd y babis newydd heb wallt dim ond gydag un iaith ac yr iaith yna fydd y Gymraeg. Yn y blynyddoedd i ddod mi all y commune yma droi yn bentref ac wedyn yn dref a rheol y dref yma fydd 'DIM SAESNEG'. Y gobaith fydd gan y plant cymaint o falchder yn ei iaith ni fyddant yn synnu dim pan maent yn mynd allan i'r byd modern yng Nghymru, y byd modern cyfalafol ble mae 'making a quick buck' yn bwysicach na'r iaith gynhenid. Fydd y babis, fydd yn troi yn blant, fydd yn troi yn oedolion ifanc, yn mynnu cael ei wasanaethu yn iaith ei Mamwlad ac ni fyddant yn cymryd na fel ymateb, na rhedeg off i ddeud wrth y comisiynydd Meri Huws. Cofiwch fydd y bobol gynhenid yma yn wyllt. Mwy gwyllt na wylliaid cochion Mawddwy ac yn gryfach nag unrhywbeth welodd y Stockman's Bar yn Llanelwedd erioed. Mi fyddant wedi tyfu fyny heb yr 'interference' rydym ni fel Cymry Cymraeg yn cael trwy'r amser, y rhwystr o fod yn wlad dwyiaethog. Rydym wedi trio hwnna a dydy o ddim yn gweithio oherwydd fydd yr iaith fwyaf pwerus, sef y Saesneg, gwastad yn ennill er golled i'r iaith Gymraeg. Mae'r Saesneg gyda grym llywodraeth Westminster ar ei ochr ble mae'r Gymraeg gyda chefnogaeth Carwyn a'i cronies a hwnna pan maen nhw yn teimlo fel cefnogi fe. Felli beth amdani? Beth am ail-wylltio Cymru ond gyda phobol y tro yma!!! 

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman