Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Thursday 4 September 2014

Difaterwch y Dyn Gwyn


Difaterwch y Dyn Gwyn!



Bois bach! Beth sydd yn digwydd yn y byd? Dydi ddim yn gyfnod saff i fod yn genedlaetholwr. Fydd Ebola a Isis ddim yn stopio wrth Bont Hafren. Mae NATO wedi cyrraedd y de ac efallai dyma'r tro cyntaf mae Caerdydd wedi teimlo fel Prifddinas ers iddi gael ei wneud  yn un, ddol yn bumdegau'r ganrif ddiwethaf. Mae gwastad yn rhoi'r argraff i mi fod yn Brifddinas anfodlon. Dwi wedi bod yn gaethwas i'r ddinas ers pum mlynedd ar hugain ac edrych dol ar yr amser maith yma teimlaf yn ddug. Hoffwn wedi byw a bod rhywle arall. I berson ifanc ddaeth i lawr o'r Gogledd ddwyrain gan feddwl fod Caerdydd yn mynd i fod ym man gwyn man draw, yn fuan sylweddolais fod o'n ddinas yn ddwrn haearn y dosbarth gweithiol Catholig. Bobol galed, ansensitif i ddiwylliant y tu allan i furiau'r Castell! "You're very Welshy aren't you"? "Yes and you are not unfortunately" oedd fy ymateb. Felli byw a bod mewn 'dead end' yn Grangetown neu Trefaerdy neu Trelluest fel newidiodd y Welshies yr enw. Mae'r ddinas wedi cael braw wythnos yma gyda phenaethiaid rhyfelgar y byd yn cyrraedd Casnewydd (Cyfieithiad New Hate) a dyna fi wedi ffoi i'r Gwyll (Hinterland) Mae'n dda beth fod Caerdydd yn cael gweld byd tu draw i dair pluen a phĂȘl Rygbi. Does dim 'doubt' da fi na thlodi sydd yn achosi anhapusrwydd ac rwyf wedi gweld yr un bobol anhapus yn Lerpwl, Manceinion a Llundain. Y broblem sydd gen i yw bod gen i feddylfryd dosbarth canol ond rwyf yn gwrthwynebu ei sefyllfa gyfforddus yn hierarchaidd y Deyrnas Unedig. Bobol yr Eisteddfod Genedlaethol well 'ych a fi'. Os oes da chi meddylfryd dosbarth canol a dych chi'n byw ymysg yr hen ddosbarth gweithiol mae'r difaterwch ar ddi obaith yn tueddu rhwbio ffwrdd. Mae'n anorfod fydd rhaid i mi symud cyn bo hir i rywle dwi ddim yn teimlo mor 'Glostroffobic'. I mi mae Caerdydd yn sugno'r enaid ar anadl mas ohonof yn araf bach. I ble ai? Watch this Space!

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman