Yr Iesu yn Brydeiniwr
Dwi'n gwybod ei fod yn funky a cool i fod yn anffyddiwr
Tybed pam?
Oherwydd bod yr Eglwys yma wedi gwisgo'r Iesu fyny fel Prydeiniwr?
Dos bosib fod ganddynt rywbeth mewn cyffredin?
Roedd Brydain ac yr Iesu wedi tywallt gwaed
Yr un dros gaethwasiaeth ac y llall dros ddynoliaeth
Dyle fo fod yn erbyn y gyfraith i fod mor di chwaeth.
Gyfraith dyn ta gyfraith Duw sydd yn teyrnasu fan hyn?
"God Save the Queen' mae'r Ymerodraeth ag y bobol ddwl yn canu
ond yn fan hyn
"The Queen is saving God"
Tasech chi ddim wedi diflasu digon ar Gymru yn gwerthu enaid
nawr maen nhw wedi etifeddu mab i Dduw.
"Oh it's just a fairy story, it's not true"
"I could say that about your blydi Queen, fenyw"
No comments:
Post a Comment