Mae pobl ym mhla
Maen nhw ym mhob man
fel morgrug 🐜
Peidiwch ag oedi neu fydd na un
wedi parcio yn y lle a llygadwyd.
Mae nhw ar eich wâr
yn eich cesail a botwm bol
ar eich penelin ac yn eich gwallt
MAEN NHW YM MHOB MAN
Dwi di ddysgu ochr gamu bron mor dda
a Phil Bennett yn ei anterth
Mae cyrraedd gartref fel rhoi'r bel o dan y pyst.
Mae rhai eisiau siarad
Mae rhai eisiau eich cyffwrdd
Mae sawl un eisiau eich osgoi
Bob person yn felltith
Oni bai am y rhai a garwyd
am y rhai a gollwyd.
No comments:
Post a Comment