Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Friday 13 September 2019

Gyrfa dros alwedigaeth





Diddorol i mi oedd gweld dau o ddoethuriaid Blaid Cymru yn mynd ati ar lawr tudalen llythyrau'r 'swper soaraway' Cylchgrawn Golwg. Dr Dewi Evans a Cynog Dafis yn dadlau dros rinweddau Neil McEvoy a'i chefnogwyr yn Orllewin Caerdydd. Cynog yn cyhuddo y gangen o entryism a Dr Dewi Evans yn chwyrn ei farn yn erbyn y cyhuddiad yma. Ar dyn bach sydd yn eistedd ar ben ei orsedd sydd yn ofni cael ei ddisodli gan Dr Dewi Evans fel Cadeirydd y Blaid bach, Alun Ffred Jones. Diddorol i mi oherwydd mae gen i gysylltiad pell gyda'r pedwar dyn yma, o bell bell wrth cwrs. Yn gyntaf mi wariais wythnos o wyliau yn 1991 yn canfasio dros Dr Dewi Evans yn Isetholiad Castell Nedd pan safodd yn erbyn yr Arglwydd Peter Hain erbyn hyn. Profiad bythgofiadwy oherwydd ymateb trigolion y dre. Sefyll wrth groesfan a gyrrwr lori yn gweiddi mas o'i cab "What yew selling by there wuss?" "Plaid Cymru weiddais yn nol yn llawen, yn llawn brwdfrydedd dros yr achos. "Bloody Rubbish" roedd ei ymateb o gyn rhoi'r troed ar y sbardun pan ddangosodd y dyn bach coch. Cymysg iawn oedd yr ymateb gan drigolion y dref ond yn amlwg iawn, oedd ymgeisydd y Blaid, Dr Dewi Evans yn uchel iawn ei barch yn lleol. Blwyddyn wedyn a finnau wedi gadael gwaith a mynd i goleg fel myfyriwr hyn a gang ohonon ni yn dreifio fyny i Geredigion i ganfasio dros Cynog Dafis. Dipyn bach mwy o lwyddiant i'r ymgeisydd y tro hyn ag yntau mewn clymblaid gyda'r Gwyrddion. Posteri Day Glo Gwyrdd ag hetiau smurff arnynt. Rhywbryd cyn y ddau etholiad yma dwi'n cofio mynd i fyny i Gaernarfon a chael fy nghyfweld gan Alun Ffred Jones am swydd dan hyfforddiant gyda Chwmni Hyfforddi Cyfle. Y gobaith wedyn oedd mynd ymlaen i gael gyrfa yn y byd teledu. Minnau wedi dreifio'r holl ffordd o Gaerdydd am yr ymweliad ag yntau yn gofyn i mi ble oedd 'Fideo Cyflwyno fi'."Beth sydd gyda chi i ddangos i ni?" "Dim" atebais yn nol, "welais ddim byd yn y llenyddiaeth anfonwyd i mi am hynny". Felli roeddwn mewn a mas o fewn pum munud ar ôl y daith hir o'r de. Teimlais gywilydd ag mi roeddwn ers hynny ddim yn ffan fwyaf o'r dyn diysgog barfog yma. Doeddwn ddim wedi dangos digon o mentergarwch yn amlwg ond mae hyny bendant ddim yn gyhuddiad allech taflu at Neil McEvoy.  Un waith dwi wedi cwrdd a Neil McEvoy ag hwnna yn tŷ yn Glanyrafon ar ôl i yntai adael y Blaid Lafur a newydd ymuno gyda Blaid Cymru.

Mi roedd fy nghysylltiadau gyda'r Blaid yn pylu fel i mi heneiddio ar ôl fod yn Cadeirydd, Trysorydd ag yn ymgeisydd i fynd ar Cyngor Caerdydd yn Ne Caerdydd a Phenarth. Ar ol gweithio a byw yn Llundain a sojourn fach yn Amsterdam mi ddes i nôl i Gymru gyda golwg byd gwahanol ar bethau. Yn wir erbyn hyn mi allaf ddisgrifio fy hun yn 'Corbynista' ail anedig. Dwi ddim yn Llafurir ag dwi bendant ddim yn credu yn y Blaid Lafur Cymraeg ond mae 'na rywbeth urddasol am yr hen Jeremy yn debyg iawn i Gwynfor Evans ers llawer dydd. Mae'r ddau ddyn yn Heddychwyr ei gwedd.

Drist fod y chwyddwydr ar Blaid Gymru yn y fath ffordd ond eto efallai fydd hwn yn broses fydd yn y pen draw yn cryfhau'r Blaid. Y broblem ydy'r 'Personoliaethau' yma, yr egos sydd wedi mynd yn rhemp ym Mhae Caerdydd. Dwi'n siŵr fod neb heb ei fai yn yr holl fusnes yma ond gobeithio taw Cymru fydd yn cael ei gofio cyn hunan diddordebau y wahanol carfannau yma.  

Mae'r Blaid wedi bod yn rhy barod i amddiffyn y rheina o fewn ei mysg sydd gyda diddordebau hunanol, Yr Arglwydd Elis Thomas yn esiampl dda o hyn a chofiaf ar ol i un Pwyllgor Gwaith y Blaid yn Aberystwyth cael ein cynghori gan neb llai na Cynog Dafis i ostwng y pwysau ar Dafydd El o ochrau'r 'Ffed' a'r 'Mudiad Ieuenctid' oherwydd bod y ddarpar Arglwydd newydd gael ysgariad ag roedd "y dyrchafiad yma yn mynd i dalu am hwnna". Mi fydd henaduriaid y Blaid yn ysgwyd ei phennau ar ol darllen y fath bethau oherwydd mae 'na rhai yn meddwl fod ymosodiad ar y Blaid yn ymosodiad arnyn nhw ag ar Gymru ond mi ddes i sylweddoli digon cloi fod 'Rhagrith' yn perthyn i'r Blaid fach cymaint ag i bob plaid arall.

Yn sgrifennu o'r tu allan fel blogiwr o fri mi faswn yn hoffi gweld Dr Dewi Evans yn cymryd y Gadeiryddiaeth i fwrdd o Alun Ffred am fwy na rhesymau dialedd am gywilydd. Hoffwn ei weld yn cymryd yr awenau oherwydd mae yna ormod o unigolion a'i diddordebau ei hunan yn amlycach nag achos annibyniaeth i Gymru. Pan mae Gwleidyddiaeth yn troi'n gyrfa dros alwedigaeth, mae'n amser hel dy bac.    


Darllener Ymhellach

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman