Pwy ddiawl di'r Ken Frane yma a beth sydd gynno fo i wneud gyda ni, rheina sydd yn siarad Cymraeg? A fo ben bid bont? Canu Clochydd? Beth dwi'n ceisio gwneud gyda Ken Frane ydy cael prif gymeriad sydd yn dangos diddordeb yn yr iaith Gymraeg. Rhywun cyffredin, di nod, sydd wedi mynd wrthi i ddysgu'r iaith. Gyda sawl un o'i gyd Cymry yn trotio allan yr hen ddiarheb "what's the point?" dydy o byth yn ateb y cwestiwn ond yn debyg i'r awdur mae o yn diawlio ei hun am beidio siarad mwy. Mi ddaeth Ken Frane i olwg y cyhoedd ar y blog yma gyntaf gyda 'The Dubrovnik Postcard Affair' wedi selio ar fy mlinder i fel dyn canol oed. Troediodd palmentydd tre Biwt ar Dociau fel gwnes i nôl yn 1988/89. Mi roedd gyda fi busnes argraffu am tua blwyddyn ar draws y ffordd i hen orsaf heddlu'r Dociau.(Gweler llun uchod)
Mi roeddwn yn gallu gweld yr adeilad allan o ffenest y Royal Stuart Workshops. Enw'r busnes oedd 'Dinas Studios' ac fel roeddech yn gallu dychmygu roedd 'na alwad ffôn neu ddau yn gofyn os roeddwn ni rhywbeth i wneud gydag cyfres drama S4C ar y pryd 'Dinas'. Mi roeddwn yn y fan hyn pan ddechreuodd un o anghyfiawnderau mwyaf yn hanes Heddlu De Cymru gydag achos llofruddiaeth Lynette White. Y cyfnod yma sydd yn dod i'm cof pan dwi'n dechrau stori fer newydd a beth ddwi'n ceisio gwneud gyda fy mhrif gymeriad ydy lleoli fo yn wahanol rhannau o Gymru. Felli yn 'Big Bother yn Little Bermo' dwi'n ceisio dadansoddi fy meddylfryd am y dref 'rhyfedd' glanmor yma. Yn 'The Bluebird Voodoo Doll' dwi yn lleoli Frane nol yn nociau'r Brifddinas ac yn archwilio agweddau goruwchnaturiol arferion voodoo. Yn 'Rigorous Mortis' ma Ken Frane yn delio gyda llofruddiaeth yn y Senedd. Cynulliad Cymru, y Llywodraeth Cymraeg yn taflu cysgod arall dros y Bae. Yn 'Farewell and a Jew' mae stori bur iawn ond yn cyfoes yn delio gyda thaten boeth y cyfnod sef gwrth Semitiaeth. Mae'r pum stori fer yna yn cael ei chynnwys mewn un gyfrol ag ers hynny mae tair stori fer arall wedi cael ei sgrifennu sydd yn 'site specific' sef wedi lleoli yn bwrpasol yn wahanol trefi Cymru. "Trouble in Tregaron' 'A Nightmare in Newport' a 'Highway to Hay' yn cynnwys tri o lefydd dwi'n weddol gyfarwydd â nhw. I mi, pan dwi'n yn sgrifennu rhywbeth, drama fer, neu stori fer yn aml y lleoliad sydd yn dod gyntaf, hyd yn oed cyn y prif gymeriad a'r stori. Dim arwr ydy Ken Frane ond pechadur cig a gwaed gyda'r un rhinweddau ag agweddau afiach yr awdur. Ffordd o therapi ydy sgrifennu i mi ac mae o yn gyfle i mi drin a thrafod pynciau sydd o ddiddordeb i mi ond mewn ffordd ffuglen, weddol saff. Mi fyddai yn parhau i sgrifennu am hynt ag helynt Ken Frane a'i ffrindiau ond dwi angen eich cymorth. Dwi angen i chi lledaenu'r neges am y dyn bach yma sydd yn rhoi Cymru ar fap datrys troseddau. Mi fasa fo'n braf tasa’r hen Frane yn gallu tyfu coesau a chael dipyn bach o hysbysrwydd rhwng darllenwyr y genre 'anti-detective' yma. Beth am brynu stori fer am bris sydd yn llai na choffi boreol a beth am sgrifennu adolygiad bach ar Amazon i mi os gwelwch yn dda? Mae Ken Frane, yn debyg i finnau yn gynghreiriad i'r iaith Gymraeg. Dydy'r ddau ddim gyda digon o hyder hyd yma i ddefnyddio fo mwy ond pwy a ŵyr fel mae'r cyfresi straeon byr yn mynd yn ei blaen? I'r Gad.
Your website is very beautiful or Articles. I love it thank you for sharing for everyone. Best pet relocation services in bahrain
ReplyDeleteThank you Steven! If you would like me to place an advert for your pet relocation service in Bahrain, I would be happy to do so! Leave me a link and I'll see what I can do! Thanks again for your support.
ReplyDelete