Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Friday 3 August 2018

Myfyrdodau'r Mis






Well dyma ni ar drothwy blydi Eisteddfod arall, meddwl gwell i mi gael go ar sgrifennu blog yn fy mam iaith honedig. Efallai eich bod wedi dechrau synhwyro na dim Cymro cyffredin di hwn sydd yn sgrifennu'r fath rwtsh ond un sydd ar y 'lookout' am gamweinyddu cymdeithasol yn y Gymraeg a'r Saesneg. Dim ots pa iaith dych chi'n siarad os dych chi'n wancar, dych chi'n wancar anaye? Dwi'n aelod o Gymdeithas yr Iaith ond dydy hynny ddim yn golygu fy mod i'n cytuno gyda phob dim maent yn ei gwneud. Teimlo fod mynd ar ôl Gwlad yr Ia (Iceland) am arwyddion dwy-iaethog yn dipyn o wastraff amser achos faint o Gymry Cymraeg sydd yn siopo yn Wlad yr Ia? Siop i bobol dlawd ydy Gwlad yr Ia a dydy'r Cymry Cymraeg ar gyfartaledd ddim yn bobol dlawd. Bobol yr Eisteddfod yn fwy tebygol i fynychu Waitrose neu Marks & Sparks neu os ydynt yn tight wads neu Gardis mynd i Aldi neu Lidl i ddangos ei street cred. Ar ôl y Llywodraeth Llafuriol yma gyda'i deddfau wan mae rhaid rhoi'r pwysau mwyaf. Wrth Gwrs os ydy rhywun yn mynd allan o'i ffordd i sarhau'r Gymraeg fel Bruce Robinson o Trago Mills well ar ei ôl o gyda cheffyl a chert. Google Translate, yn bersonol faswn wedi gadael hwnna i fod melli beth ddwi'n ceisio dweud ydy "Mae rhaid i ti ddewis dy frwydrau yn ofalus" a dim jest mynd ar ôl popeth willy nilly. Fel Eisteddfod refusnik dwi yn gobeithio aeth pethau yn hwylus yn hotbed yr iaith sef Butetown a gobeithio bydd ddim gormod o bobol precious Pontcanna yn ypsetio y trigolion lleol gyda'i tall tales of gentrification. Mae fy marn am Gymry Cymraeg dosbarth canol wedi cael ei llaesi ar y blog yma o blaen felli mi ai ddim ar ôl y bwgan yna eto ond dwi yn teimlo bydd rhaid bod rhyw fath o gytbwysedd rhwng bod yn amddiffynnol dros yr iaith ar drydar ac yn adeiladol drosto fo yn weithredol. Unigolion arbennig fel y rhai sydd yn 'cystadlu' yn Ddysgwr y Flwyddyn ydy'r rhai sydd am roi arweiniad i weddill ohonom ni. Pan mae'r iaith yn cydio ynddyn nhw mae yn cydio go iawn ac maent yn troi yn efengylwyr dros yr achos.

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman