rhwng gŵyl a gwaith
rhwng bywyd a marwolaeth
aros oherwydd oedran
aros
i henadur arall cnoi'r llwch
i gael ei anfon allan mewn cwch
i flasu angladd y Llychlynwyr
unrhyw un sydd wedi byw mor hir
yn haeddu ennill tir
yn ein cof
haearn a dur bywyd yn cael ei saer gan gof.
murlun ta cerflun i gofio Tryweryn?
beth bynnag all cael ei weld o fynydd y Berwyn
mae bywydau ni fel Cymry yn dioddef oherwydd ffawd Cymru
gwlad ffwrdd a hi erbyn hyn
gwlad llawn ffwlbri
de a gogledd wedi rhannu gan feddylfryd ar ffaith fod y bobol ifanc eisiau teithio’r byd
a pwy all ei feio?
agor llenni’r ffenest i weld hen gastell
agor papur newydd i ddarllen hiliaeth o iaith,
pryd oedd Cymru yn lle da i fyw?
oes rhywun yn cofio?
efallai wnaeth yr hen ŵr newydd ymadawedig
blasu rhyw faint o fodlonrwydd rhywbryd
ond annhebyg
No comments:
Post a Comment