Bataliwn Brwynen
Bataliwn Brwynen ar Cors Caron
Bob un yn sefyll fel y dyn olaf ar faes y gad.
Maent wedi tynnu llyw i amddiffyn y broga a phenbyliaid wrth ei thraed.
Crychydd crintachlyd uchel yn y coed
Ei sgrech yn unigryw ac fel cri de coeur
Mae 'na chwedl yn deud fod drylliau Byddin Rhyddid Cymru yn gorwedd ar Gantre' Gwaelod Cors Caron.
Yn anffodus mae oes yr ia wedi toddi mewn i oes yr hufen ia.
Twristiaid sydd yn teyrnasu bellach ond nid yn Nhregaron.
Te cryf yn y Talbot, Rhiannon yn rhefru.
Mae'r iaith yn cadw e'i thir
Cayo nid y Ceidwadwyr yw'r arweinydd rownd ffordd hyn.
Ceffylau cryf, sŵn y llif
Llafur llafrwynen
Bataliwn Brwynen dal i frwydro.
No comments:
Post a Comment