Ranto a Rafan
(Ranting & Raving)
Dwi'n ranto a rafan yn Saesneg
waith i fi wneud o yn Gymraeg
neu Wenglish i chi a fi
achos os i chi am filiwn i siarad erbyn 2050
fydd rhaid i chi gymryd 'all comers'
bob siâp, bob lliw, bob llun
a bob straen o Gymraeg
Mae di droi yn obsesiwn yn rhai llefydd
yn wir mae rhai pobol wedi stopio byw
jest yn aros am y man gwyn fan draw
well bois bach mi gânt nhw braw
mae fel shovelo shit yn y glaw
wy'n gwybod taw shit di cachu
ond dwi'n cachgu chi'n gweld
well da fi sticio i Saesneg
rhag ofn fyddai'n gwneud mistec neu gamgymeriad, sori!
Mae gymaint ohonon ni yn fwngrelod da iaith dros bob man
i ni wedi dechrau mynd yn ofn o ein cysgod
buasa well da ni bwyta bwced o bysgod,
na cheisio ynganu Cymraeg cywir
achos
"They all speak English anyway"
No comments:
Post a Comment