Language was the absolute key to all of this

Total Pageviews

Tuesday, 5 December 2017

Rants Iechyd y Meddwl/Mental Health Rants


 

'Rant' mae'r gair ei hun yn un crac ac un flêr. Mae yna ddicter yn y gair a dyna sut dwi yn edrych ar Iechyd y Meddwl. Dim Iechyd Meddwl ond iechyd y meddwl. Iechyd sydd yn perthyn i'r meddwl. Dwi'n dod o gyfnod y punks ble roedd y neges yn y gerddoriaeth ac yn y wisg. Capel ar y Sul a safety pins gweddill yr wythnos! As if! Na os dwi'n debyg i chi dwi'n hanu o deulu a thraddodiad parchus Cymraeg ond dydy iechyd y meddwl ddim yn barchus. Weithiau mae yn gallu gweiddi'r gair 'Cont' allan yn uchel ac yn atseiniol. Dwi ddim yn meddwl fod yna digon o le yn gymdeithas i fynegi rhwystredigaeth a dicter. Dyna un rheswm am gymaint o drais yn y cartref. Dydy o ddim yn esgus amdano fo o’n mae yn rheswm. Mae defnydd o gyffuriau cyfreithlon yn gallu gwneud o yn waeth. Alcohol 'the go to drug of choice' i bobol barchus Cymru yn achosi mwy o broblemau na chanabis a cocaine tybiwn ni. Ond o beth rydym ni yn ceisio ffoi? Oddiwrth beth rydym ni yn rhedeg? Y ffaith ein bod yn feidrol ac yn mynd i farw heb sylweddoli ein huchelgeisiau? Beth ydy'r cysgod mawr yma sydd yn cyhwfan drosom ni gyd ac i'r rhai anffortunus (neu ffortunus) mae yn troi mewn i afiechyd y meddwl. Dwi ddim yn teimlo fod yna digon o drugaredd a haelioni yn y byd. Mae rhaid i ni weld mwy o hyn yn ein bywydau bob dydd yn lle gweld erchyllterau'r byd ar y newyddion 24/7. Os ydych mewn sefyllfa argyfwng yn ein cymdeithas pwy sydd yn cael ei alw (yn dibynnu ar ble dych chi'n byw: y loteri cod post bondigrybwyll) gan amlaf yng Nghymru, yr Heddlu sydd yn cael ei galw. Dim am ddim maent yn cael ei galw 'Y Peace Force'. Mae blerwch afiechyd y meddwl yn amharu ar heddwch gymdeithas felli mae rhaid i alw am bobol sydd yn cadw'r heddwch ond ydy bob unigolyn dwedwch yn haeddu goddefgarwch a haelioni gymdeithas? Ond mewn system gyfalafol, gystadleuol ble mae'r amser i gael taw ymysg y storom. O'r ysgol i'r brifysgol i'r gwaith ta gyrfa i briodas i ymddeoliad i'r bedd. A dyna di bywyd? Well os hwnna ydy bywyd dwi wir yn synnu fod 'na ddim canran mwy uchel yn dioddef o afiechyd y meddwl. Roedd y punks yn gweld fod cyfaddawdu yn lladd pobol. Dyna waith y sefydliad chi'n gweld, i wneud yn siŵr mi rydych chi yn cyfaddawdu. Yn sicr, mae natur a geneteg gyda rhan i chwarae ond yr amgylchedd sydd yn bwysicach yn penderfynu os fydd afiechyd y meddwl yn amlygu. Mewn cymdeithas ble mae'r unigolyn yn cael ei werthfawrogi a'i barchu fel enaid holistaidd yn lle uned economaidd i wneud pres a thalu treth cawn weld llai o afiechyd y meddwl ond mae rhaid i ni fel unigolion newid y diwylliant. Mae rhaid i ni droi ein cefnau a'r diwylliant sydd wedi anfon gymaint o'n cyndeidiau yn sâl ac i fedd cynnar. Mae rhaid i ni fynnu gwell.


No comments:

Post a Comment

The Love Grenade

  Sinead threw a grenade down the esplanade. It was no ordinary, common and garden explosive device this, when it landed it shower...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman