Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Thursday 24 August 2017

Dyfalbarhad

Dyfalbarhad



A dyma ni heddiw ar ddiwrnod dyfalbarhad sef diwrnod canlyniadau TGAU. Lefel O oedd o yn fy nghyfnod i chi. Dwi'n cofio ble oeddem ni pan ges i fy nghanlyniadau, Aberaeron, Sir Aberteifi neu Dyfed fel roedd o ar y pryd. Yn sbïo draw i ochor arall yr harbwr a gweld pobol yn chwarae mewn brass band. Diwedd mis Awst ag mi roedd 'na ryw Garnifal sydd yn parhau tuag at y dydd hwn. Carnifal ydy arholiadau. Ffair llwyddiant neu fethiant yn un ar bymtheg oed. Y gwahaniaeth rhwng mynd ymlaen i Brifysgol a hunan fodlonrwydd y dosbarth canol neu droi at fyd gwaith yn ifanc, prentisiaeth efallai ac wedyn flynyddoedd o ddicter a theimlo'n ddug am gwrs bywyd. Methais i fy Lefel O ac yn lle mynd ymlaen i fod yn newyddiadurwr mi es i ymlaen i astudio argraffu neu weinyddiaeth argraffu i fod yn fanwl gywir. Yr inc yn lle o ble ddaw'r inc. Y peth gorau i mi ar y pryd oedd gadael Cymru a mynd lawr i Dde Lloegr i astudio ac wedyn ar ôl dwy flynedd yn nol i Ogledd Cymru i wynebu unwaith eto ardal fy methiant. Ar ôl dwy flynedd arall mi roeddwn yn y North Wales Medical Centre ar ôl cael nervous breakdown a dwi ddim really wedi dod at fy nghoed ers hynny. Nawr mae chwarae victim status yn ddigon hawdd i mi, teimlo really hard done by ydw i gan fywyd a dwi'n olrhain yr hanes i'r diwrnod hwnnw yn 1983 pan welais i ddyn yn chwythu ei diwba ar ôl i mi gael fy nghanlyniadau. Mi roedd o fel rhywun yn tynnu cadwyn ar doiled bywyd. 
Dyfalbarhad, you've either got it or you haven't cyw and I haven't! Dwi di ofni mentro ers y diwrnod hwnnw jest in case dwi'n methu eto. Mae methu unwaith at 16 yn ddigon i unrhyw un. 

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman