Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Friday 7 April 2017

Diniwed





Diddorol di'r gair diniwed. Lori yn taro pobol ddiniwed yn Stockholm. Pwy all dweud gyda llaw ar ei galon ei fod nhw yn ddiniwed? Dwi bendant ddim yn ddiniwed. Dwi'n real hen infidel chi! Bob crefydd dan haul yn deud ein bod yn bechaduriaid. Allwn ni ddim yn galw ein hun yn ddiniwed yn fy marn i os ydym yn cymryd rhan mewn cymdeithas gyfalafol. Os ydym yn prynu nwyddau chep mae rhywun yn rhywle yn dioddef. Mi es i i Stockholm unwaith, ar awyren Ryan Air gyda dwy Sbaenes, un o wlad y Basque ar llall o Zaragosa. Hedfan o Stansted. Mi gerddon ni am filltiroedd, dipyn o ddinas ag mi wnaethon ni aros y noson ar gwch yn harbwr oedd hefyd yn hostel. Cymryd mantais o brisiau chep am benwythnos i ffwrdd.
Rydym mewn rhyfel gyda lone wolves yr Islamic State yn Ewrop ac mae Trump newydd agor y Jinn o flwch yn Syria. Mae geiriau 'Evil' yn cael ei ddefnyddio. Dwi ddim yn credu yn y gair! Dwi ddim yn credu fod yna fath beth ag 'Evil'.
Subjective Statement ofergoelus ydy 'evil'. Rydym ni yn y Gorllewin wedi cael ein llusgo gan y rhethreg gwrth ffoaduriaid a mewnfudwyr gan Farage a'i debyg. Dwi'n meddwl fod ni rŵan fel Ewrop rhanedig ar fin cyfnod efallai fydd yn cael ei gofio fel 'The Age of Hysteria' Duw a ŵyr pa effaith mae'r digwyddiadau terfysgol yma yn cael ar isymwybod bobol fregus. Pobol sydd ddim wedi torri eto, torri yn ysbrydol. Rhag ofn i chi meddwl fy mod i yn dangos rhyw fath o 'Stockholm Syndrome' yn fan hyn, dwi'n meddwl fod o'n bwysig i ddeall "pam fod pobol yn cymryd rhan mewn digwyddiadau terfysgol?" Mae 'critical mass' y Gorllewin wedi cael braw. Yr hen ddywediad 'One man's terrorist is another man's freedom fighter'. Dydy o erioed wedi bod mor briodol ers dyddiau yr IRA. Dwi'n anghytuno gyda rheina sydd yn deud "rydym wedi gweld hyn o blaen". Doedd yr IRA ddim yn dieneidio pobol, ddim yn gyhoeddus beth bynnag a ddim ar You Tube. Gan feddwl, mi wnaethon nhw bombio Canary Wharf yn Ninas Llundain ag hefyd yr Arndale Centre ym Manceinion. Dwi'n dechrau meddwl fod milwyr jihad yn defnyddio arfau cyfalafiaeth ar bwrpas. Mae defnyddio loriau, y 'blunt instruments' yma sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio i gario nwyddau nawr yn cael ei ddefnyddio i ladd pobol. Maen nhw yn ddigwyddiadau symbolaidd fel oedd llofruddiaeth y Gweinidog Catholig yn Normandy  flwyddyn yn ôl. Yr attack yn Nice ar Bastille Day, yr ymosodiad ym Mharis ac ym Merlin just cyn y Dolig. Digon hawdd fydd hwn yn parhau yn ddiddiwedd ac yr unig ateb allai weld ydy peidiwch ag reportio fo. Mae 24hour news Rupert Murdoch ar BBC yn gwneud gwaith propaganda'r Islamic State drostyn nhw. Peidiwch â dangos yr erchyllterau! Byddwch fel estrys! Anwybyddwch y ffaith fod y byd yn mynd ben iddi. Allwn ni fel unigolion diniwed gwneud dim am y peth. Waeth i ni jest cario mlaen i fwynhau ein hunan yn y byd cyfalafol sydd ohoni.      

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman