Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Friday 17 February 2017

Gwobrau amgen Dewi Sant






Bu rhaid i'r Pysgotwr Siarcod cyfadde’ fod e braidd yn siomedig ei fod ddim wedi ei rhestru fel un a chyfle i ennill Gwobr Dewi Sant. Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru. Maent yn cydnabod gorchestion a chyfraniadau gwych pobl o bob cefndir. Dywedodd y Prif Weinidog 'CJ' "Nod Gwobrau Dewi Sant, sydd bellach yn eu pedwaredd flwyddyn, yw dathlu pobl sydd wedi mynd yr ail filltir i wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun arall, sydd wedi goresgyn anawsterau neu wedi cyflawni rhywbeth ysbrydoledig". Well, faswn ni yn meddwl fod rhedeg a golygu'r rhacsyn blog yma am y pum mlynedd diwethaf neu fy 'Wenglish chwerthinllyd' yn cael ei ystyried ond na fe. Mewn ysbryd chwerwder a wenwynig dyma fi yn rhestru fy rhestr Gwobrau amgen Dewi Sant.

Yn gyntaf bu rhaid cynnwys yr ysgrifennydd gwladol y blaid Dorïaidd Alun 'Greasy Wop' Cairns. Y dyn sydd yn ysgrifennydd gwladol oherwydd ei fod yn siarad Cymraeg a'i fod yn Dori. Dyma'r dyn a aeth yn fyw ar BBC Question Time a honnodd fod aelodau o Blaid Cymru yn gwybod ble roedd y cyrff wedi ei chladdu, nudge nudge, wink wink. 

Yn ail ac un sydd yn ffefryn i gael gwobr trwyn coch a revolving bow tie Dewi Sant ydy'r blaggard 'Neil Hamilton'. Dyn sydd yn rhedeg ar batteries ac sydd yn cael ei weithio'n 'remote control' gan ei wraig Christine Hamilton o'i phalas yn Wiltshire. Hi sydd yn arwain o dros y bont yn ei Range Rover ac i lawr i Langennech i fod yn rhan picket lein y 'Welsh Not'.    

Yn drydydd yr Arglwydd annibynnol dros Fetws y Coed a Swallow Falls, yr ysgolhaig a diddanwr Merched y Wawr, Dafydd El. Dafydd diddums a gafodd ei anghofio gan weddill y blaid genedlaethol a oedd yn rhy brysur yn brwydro dros annibyniaeth i Gymru i gofio fod rhaid iddynt ei thrin o fel Arglwydd.

Yn bedwerydd yr anghynnes Alun Davies, y Llafurwr o Dredegar sydd wedi cael y top job gan CJ i wneud yn siŵr fod 'na miliwn o bobol yn gallu siarad y Gymraeg erbyn 2050. Well neb gwell i fwlio a bygwth pobol i ddysgu iaith. Pwy a ŵyr gyda’i sgiliau llithrig efallai fydd hyd yn oed o yn perswadio Jeremy Corbyn i siarad Cymraeg. Gair o gyngor i 'CJ' gan y Pysgotwr Siarcod gyda hwn fuasa 'Beware the Ides of March' gwboi.

Y pumed ac yr olaf ar fy rhestr wobrau amgen Dewi Sant fasa'r caws mawr ei hun 'CJ' boss ar yr hen Reggie Perrin. "I didn't get where I am today....... Mae Carwyn wedi bod yn Brif Weinidog arnom ni, y taeog Cymry ers.....Yawn! Mi fydd o yn seremoni rhyfedd achos mi fydd rhaid iddo dal fyny drych i gael rhoi bathodyn bach Dewi Sant ar ei lapel neu well fyth fydd rhaid i Alun 'anghynnes' Davies dal fyny'r drych iddo ef! "Mi rydych yn edrych yn swper CJ"

Os oes gyda chi enwebiadau am wobrau amgen Dewi Sant rhowch nhw lawr yn y blwch 'sylwadau' os gwelwch yn dda!   

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman