Cymru/Wales: Bipolar Nation

Total Pageviews

Thursday 6 October 2016

UKIP: Y rhodd sydd yn parhau i rhoi!










UKIP: Y rhodd sydd yn parhau i roi! Fisticuffs a Misdimanners yn y Senedd Ewropeaidd yn Strasbwrg! Be ddiawl mae'r cnafon dal i wneud yn y lle? Nhw wnaeth arwain y frwydr i adael Ewrop ond maent eisiau cael ei thalu am hen raff'. Money for old rope mun! Ddim yn gytûn i gwympo mas rhwng ei gilydd yn y Senedd, maen nhw nawr yn chwifio dyrnau at ei gilydd yn Ewrop! 'British Hooligans running riot on the Continent again'. Mae hwn yn rhoi enw drwg i ni sef sir fwyaf Lloegr, Cymru, achos dyna beth i ni erbyn hyn. Mae'r British Welsh a mewnfudwyr dosbarth gweithiol wedi gwneud yn siŵr ein bod ni nawr yn rhan o Loegr. For England see Wales. Beth bynnag am y rhamant, mae realiti ein sefyllfa yn ddifrifol! Rydym fel Gelert ac yn lle amddifyn ein hiaith ac ein hetifeddiaeth fel gwnaeth o y tywysog bach, rydym yn gwerthu allan fesul bob diwrnod i'r gyfalafiaeth Dorïaidd. Mae Team GB ddim jest yn dod yma are ei gwyliau maen nhw yn byw mha erbyn hyn ac yn ei degau o filoedd ac mae'r Cymry bach taeog wedi bod yn codi ei chapiau ac yn deud "Yes Syr, No Syr" fel bod ei thafodau yn frownach na maes parcio Gŵyl Rhif 6. Mi ddreifiais heibio hwnna ar y bore Gwener roedden nhw yn arwain nhw i mewn fel defaid. Neb eisiau cymryd cyfrifoldeb wedyn a bob asiantaeth yn beio'r un nesaf. A dyna sut ydan ni yng Nghymru, aros am y digwyddiad mawr ac wedyn troi rownd a phwyntio bys. Erbyn hyn dydyn ddim yn gwybod pwy sydd yn 'Friend neu Foe'. Mae the Party of Wales wedi hollti yn ddau gan Genedlaetholwyr Diwylliannol a Chenedlaetholwyr Sosialaidd. Mae ofn allwn ni ddim dibynnu arnyn nhw am unrhyw arweiniad. Mae'n deud cyfrolau fod 'na Blaid o'r enw Llais Gwynedd yn gwrthwynebu nhw yn ei chadarnle. Tasa’r De ôl diwylliannol ddim yn tretio'r Gogledd gyda chymaint o ddirmyg a sarhad, a gwneud jôcs ar ben y Gogs druan efallai fasa na rhyw awyrgylch well ond mae'n rhaid cydnabod yn gyhoeddus fod y Cymry mor annhebyg i'w gilydd erbyn hyn na jôc ydy cael Plaid o'r enw Plaid Cymru. Tybed beth fasa Saunders, DJ a Valentine yn wneud o'r dandys Prydeinig piws yma yn dawnsio rhwng om ni fel pypedau'r Frenhines. Efallai fydd Sosialaeth Jeremy Corbyn yn cynnig atebion i anghenion pobol gyffredin Cymru ond eto fydd y rhai breintiedig yn ofni colli ei statws a phŵer ac mi fydda nhw yn pleidleisio yn amddiffynnol a melli yn Brydeinig. Does dim gobaith i ni os ydym dal yn rhedeg ar ôl yr un hen gynffonau. Mae'r Brit Nats yn gwneud hwyl ar ein pennau, yn enwedig ar ei Speed Boats yn Abersoch. Ydym ni fel ci dof am droi drosodd i gael ein bol wedi ei ticlo gan y Cwin a'r Prince of Wales neu ydan ni am ymladd nôl mewn pa bynnag ffordd a fydd angen?

No comments:

Post a Comment

Death by Taxes

"Individuals and businesses not paying the tax they should deprives the government of the funding it needs to provide vital public serv...

Blog Archive

Bottom of the Ottoman

Hitler navigates the A487 from Aberaeron to Aberystwyth

Goodreads

David's books

How To Be Idle
Second Sight
Freud: The Key Ideas
The Yellow World
Intimacy: Trusting Oneself and the Other
Going Mad?: Understanding Mental Illness
Back To Sanity: Healing the Madness of Our Minds
Ham on Rye
Electroboy: A Memoir of Mania
Memories, Dreams, Reflections
Mavericks
Murder in Amsterdam: The Death of Theo van Gogh and the Limits of Tolerance
On Writing: A Memoir of the Craft
I Bought a Mountain
Hovel in the Hills: An Account of the Simple Life
Ring of Bright Water
The Thirty-Nine Steps
A New Earth: Awakening to Your Life's Purpose
The Power of Now: A Guide to Spiritual Enlightenment
The Seat of the Soul


David Williams's favorite books »

Bottom of the Ottoman